Thema

Yn flynyddol mae gan Is-bwyllgor y Chwiorydd thema am y flwyddyn.  Mae’r thema yn helpu ni ffocysu ar ein gwaith a byddwn yn defnyddio’r adnod/au yn ystod digwyddiadau’r Chwiorydd.  Eleni, rydym wedi paratoi llyfryn deiniadol sy’n llawn o syniadau ar y Thema ynghyd a newyddion am ein prosiectau adref a thramor.                                 

Thema Gobaith yn Iesu

Thema Y Bugail Da

                                 

Thema 2018

Thema 2018

   

Cynlluniau 2018

Cynlluniau 2018-19

Saib a Sgwrs: Cefnogi Merched Iau

Mae bywyd o ddydd i ddydd yn llawn heriau bach a mawr. Daw profiadau annisgwyl i dorri ar ein heddwch. Mor braf yw cael rhannu ag eraill a hefyd cael tawelu wrth brofi gofal, nerth a chariad yr Arglwydd.

Mae’r cynllun yn cynnig:

  • Cyfle i ferched ddod at ei gilydd dros bryd bwyd.
  • Awyrgylch braf ac anffurfiol gyda’r nos.
  • Edrych ar bethau sy’n ein herio o ddydd i ddydd.
  • Cyfle i ryfeddu ar addewidion ac arweiniad yr Arglwydd

Themâu

  • Prysur, prysur! Ble mae ein heddwch ni?
  • Gwerth bywyd. Delio â newid.
  • Cadw i fynd. Cerdded gyda Iesu.
  • Dal ar y cyfle. Cyrraedd ein potensial.
  • Cael trefn ar fywyd. Addewidion Duw.

Coginio@Capel

Cynllun newydd cyffrous ar y cyd gyda’r Tîm Plant a Ieuenctid.


coginio@capel from EBCPCW on Vimeo.

Cynllun Pontio

Estyn allan at bobl mewn angen yn y capel a’r gymuned leol
Y nod yw cyrraedd allan at unigolion sy’n gwynebu heriau bywyd yn ein cylch teuluol a’n cymdogaeth trwy garedigrwydd a gofal ymarferol syml.
Ein gobaith yw rhannu cariad yr Arglwydd gyda rhai sy’n ddigwmni, heb gefnogaeth teulu, yn ofalwyr ac yn anghenus yn y gymuned leol. Bydd cyfeiriadau ar gael i gyfeirio unigolion at wasanaethau yn lleol.
Dyma rhai enghreifftiau i’w gweithredu

  • Cyfle i gymdeithasu, rhannu baich ac ymlacio – caniad ffôn, cefnogi gofalwyr, gweddïo, ‘sgwennu llythyr, darllen.
  • Dwylo prysur – syniadau gwau i’r pobl hŷn ar rhai sy’n colli cof.
  • Adnoddau – CD o emynau, darlleniadau Beiblaidd a gweddïau.

Gwau ar gyfer Babanod Cyn-Amserol

Cliciwch yma am batrwm crochet octopws

Sliperi Anti Magi

Cliciwch yma i lawrlwytho’r batrwm.

Llwybyr Mari : Llwybr Ni


Sesiwn arbennig wedi ei selio ar fywyd Mari Jones i’n hysbrydoli yn ein ffydd a’n cerddediad gyda Duw.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth

Cysylltu Gyda’r Beibl
Ydyn ni wedi colli golwg ar werth a phwysigrwydd y Beibl i ni heddiw?
Mae llyfryn o ddarlleniadau Beiblaidd nawr ar gael i’n cynorthwyo i ail-ddarganfod trysor bythol y Beibl. Mae wedi’i ysgrifennu gan ferched Cymru ac yn seiliedig ar daith hanesyddol Mari Jones. Mewn cydweithrediad a Chymdeithas y Beibl Cymru.

Ar gael gan Eirian, Carys neu Sarah am £2.50

Thema 2019