Y Bwletin Cenhadol

Mae’r Chwiorydd yn derbyn newyddion rheolaidd drwy’r Bwletin Cenhadol. Mae’n adnodd gwerthfawr i rannu gwybodaeth ac adroddiadau. Darperir y Bwletin gan Eirian Roberts, Trefnydd Gwaith y Chwiorydd. Os hoffech gyfrannu yn y rhifyn nesaf cysylltwch gydag Eirian ar 01678520065 neu eirian.roberts@ebcpcw.cymru

Taith Mary Jones i’r Bala yn ysbrydoli cyfrol i ferched

Cafodd cyfrol newydd, wedi ei ysgrifennu gan ferched i ferched, ei lansio yn Eisteddfod Genedlaethol y Fenni dydd Mercher 3ydd o Awst 2016. Yn 1800 cerddodd merch 15 mlwydd oed 26 milltir ar draws gwlad o Lanfihangel-y-Pennant i’r Bala i chwilio am Feibl Cymraeg. Wedi ei hysbrydoli gan y daith honno, mae cyfrol Agor y Gair gyda Mari yn annog darllenwyr i ddilyn y daith gyda darlleniad bob dydd am 26 o ddyddiau, yn cynrychioli’r 26 milltir o’r daith.

Sasiwn Cenhadol y Chwiorydd

Ar Fai y 4ydd teithiodd nifer dda i Jerwsalem, Eglwys Unedig Bethesda. Trwy anerchiad Llinos Morris a Mererid Mair, cawsom ddarlun clir o’r gwaith sy’n digwydd yn Eglwys Noddfa, Caernarfon. Gyda help Ben a Nain, dau byped hwyliog iawn, roedd yn hawdd deall sut mae Noddfa yn gallu cyrraedd allan ac agor y drws at bob oedran o’r gymuned glos yma. Darlun dwys iawn cawsom yn ystod gwasanaeth yr hwyr, gyda’r Athro Mari Lloyd Williams yn rhannu am angen yr henoed sy’n mynychu Gofal Dydd Capel Waengoleugoed. Mae’r Capel yn cynnig cwmni, cariad, gofal a phryd o fwyd i lawer sy’n gwynebu unigrwydd yn ddyddiol.

Yr un oedd y croeso yng Nghapel Morfa, Cydweli ar Fai 19eg, gyda’r ddwy siaradwraig yn rhannu am eu profiadau, y naill ym Mryniau Casia a’r llall ar strydoedd Abertawe. Roedd y Parchedig Gwenda Richards wedi ymweld â’r India yn ystod y Gymanfa Gyffredinol a thrwy gyfrwng lluniau ar y sgrin cafwyd hanes sefydlu’r Eglwys yn yr India, cofgolofn a oedd yn cynnwys enwau’r holl genhadon o Gymru a’r ymweliad ag Ysbyty H. Gordon Roberts yn Shillong. Gwaith Bugeiliaid y Stryd oedd testun anerchiad y Parchedig Jill-Hailey Harries. Eglurodd sut mae’r bugeiliaid yn rhoi clust i wrando ac yn ymateb gyda geiriau o gysur neu gyngor.