Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru oddeutu 600 o eglwysi ar hyd a lled Cymru a thu hwnt. Mae ein heglwysi yn amrywio o ran rhif aelodaeth, o nifer fach i gannoedd. Caiff yr eglwysi eu harwain gan flaenoriaid, yn cael eu hethol gan y gynulleidfa. Mae gan tua hanner ein heglwysi weinidog sydd, gyda chymorth y blaenoriaid, yn arwain y gwaith o ddarparu gofal bugeiliol ac addoliad. Mae llawer o’r eglwysi yn rhan o ofalaeth leol ac yn rhannu eu gweinidog gydag eglwysi eraill. Lle nad oes gweinidog, bydd y blaenoriaid yn gyfrifol am fywyd ysbrydol yr Eglwys.
Mae mwyafrif eglwysi EBC yng Nghymru, ond mae nifer ohonynt dros y ffin yn Llundain, yng Nghanolbarth Lloegr ac ardal Cilgwri
Mae cwmpas ac ehangder gwaith ein heglwysi yn amrywio’n fawr. Addoliad y Sul yw’r prif ffocws, ond mae mwyafrif helaeth ein heglwysi hefyd yn cynnal cyfarfodydd yn ystod yr wythnos megis cyfarfodydd gweddi neu astudiaethau Beiblaidd a digwyddiadau cymdeithasol. Mae llawer yn weithredol o fewn eu cymunedau, gan gynnig eu cyfleusterau i eraill, a darparu gwasanaethau sy’n amrywio o grwpiau mam a’i phlentyn i fwydo’r digartref a chodi arian.
Dod o hyd i Eglwys
Gallwch chwilio am eglwys yn adran Eglwysi y wefan. Mae oedfaon a gweithgareddau ein heglwysi yn agored i bawb.
Ymuno ag Eglwys
Os ydych am broffesu eich ffydd yn Nuw ac ymrwymo i’r eglwys leol, efallai yr hoffech ystyried dod yn aelod o’r eglwys.
Mae addoli yn rheolaidd a derbyn y Sacramentau yn ganolog i fywyd aelod eglwysig. Mae bod yn aelod o’r Eglwys yn fraint fawr ac felly mae dyletswydd ar yr aelodau i gymryd rhan yn addoliad a gwaith yr Eglwys gan gyfrannu mewn arian, amser a doniau. Dylai’r aelodau geisio gadw at y safonau a welir yn yr Efengyl gan fyw fel tystion ffyddlon i Grist.
Gallwch ddod yn aelod o’ch eglwys leol mewn un o dair ffordd:
- Pan fo pobl ifanc oddeutu 16 mlwydd oed, bydd y gweinidog neu’r blaenoriaid yn cynnal dosbarthiadau i baratoi’r ieuenctid ar gyfer dod yn aelodau llawn o’r Eglwys. Y gobaith yw y bydd y person ifanc yn gwneud proffes bersonol o ffydd a hynny mewn gwasanaeth arbennig – mewn traddodiadau eglwysig eraill mae hyn yn cael ei alw’n gonffyrmasiwn – ac yna cant eu derbyn yn aelodau llawn. Yn draddodiadol dyma’r adeg y derbynnir y Cymun Sanctaidd am y tro cyntaf.
- Gall y rhai sy’n symud o un eglwys o fewn EBC i eglwys arall symud eu haelodaeth drwy lythyr trosglwyddo aelodaeth.
- Dylai eraill, gan gynnwys aelodau o enwadau eraill, drafod dod yn aelodau gyda’r gweinidog neu’r blaenoriaid
Canolfannau
Mae gan Eglwys Bresbyteraidd Cymru ddwy ganolfan: Coleg y Bala a Choleg Trefeca. Gall ein canolfannau gynnig man cyfarfod i grwpiau ac unigolion Cristnogol neu seciwlar – os am wybodaeth ewch i’w gwefannau.
Coleg y Bala
Mae Coleg y Bala yn ganolfan ar gyfer plant ac ieuenctid sydd wedi ei lleoli yn y Bala, Gwynedd. Mae Coleg y Bala yn cynnal cyrsiau dydd, penwythnos ac wythnos yn rheolaidd ar gyfer plant ac ieuenctid.
Coleg Trefeca
Mae Coleg Trefeca yn ganolfan hyfforddiant ar gyfer lleygwyr, ac mae wedi ei lleoli ym Mannau Brycheiniog. Mae Coleg Trefeca yn darparu lle ar gyfer cynadleddau a chyrsiau yn rheolaidd ac mae’n le delfrydol os am weddïo, myfyrio, neu ymlacio.
Coleg Trefeca from EBCPCW on Vimeo