Ystyr ‘Gweinidogaeth’ yw ‘gwasanaeth’, ac mae sawl math o weinidogaeth o fewn Eglwys Bresbyteraidd Cymru, yn amrywio o arwain addoliad a gweinyddu’r sacramentau i waith caplan ac arwain yr eglwys leol.
Y Weinidogaeth Ordeinedig
Mae tua 45 o weinidogion ordeinedig yn gwasanaethu Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Mae’r dynion a’r merched hyn wedi derbyn hyfforddiant arbennig, ac wedi addunedu i wasanaethu’r Arglwydd Iesu. Bydd gweinidogion fel arfer yn cael eu galw i wasanaethu mewn gofalaeth (grŵp o eglwysi). Byddant yn gweithredu fel arweinydd gan alluogi’r eglwysi i ddatblygu eu bywyd ysbrydol. Ymhlith eu prif ddyletswyddau y mae arwain addoliad, dysgu a darparu gofal bugeiliol. Mae gweinidogion hefyd yn weithredol yng ngwaith yr Henaduriaeth, a bydd llawer yn ymgymryd â gwaith y Gymdeithasfa a’r Gymanfa Gyffredinol.
Mae swyddogaeth gweinidog hefyd yn cynnwys:
- Gweinyddu’r sacramentau – y Cymun a’r Bedydd;
- Pregethu – yn eu gofalaeth ac mewn mannau eraill;
- Arwain angladdau a chynorthwyo’r sawl sy’n wynebu marwolaeth neu mewn profedigaeth;
- Arwain priodasau a chynorthwyo parau i baratoi ar gyfer priodi.
Y Weinidogaeth Wirfoddol
Ers 2009, gall gweinidogion ddewis gwasanaethu’r Eglwys yn wirfoddol. O dan reolaeth yr Henaduriaeth, gall gweinidogion sydd wedi ymddeol neu sydd mewn galwedigaeth arall ddod i ddealltwriaeth gydag eglwys neu ofalaeth. Bydd y gweinidog gwirfoddol yn cyflawni rhai o ddyletswyddau gweinidog llawn amser.
Blaenoriaid
Mae blaenoriaid yn aelodau o’r eglwys leol sy’n cynnig eu hamser yn wirfoddol. Cant eu hethol gan y gynulleidfa ac wedi eu hethol maent yn flaenoriaid am weddill eu hoes.
Mae’r blaenoriaid yn chwarae rhan bwysig yng ngweinidogaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru gan eu bod, ynghyd â’r gweinidog, yn gyfrifol am fywyd ysbrydol yr eglwys a’r ochr mwy ymarferol. Mae eu dyletswyddau yn cynnwys darparu gofal bugeiliol a chefnogaeth, cynnal a chadw eiddo’r eglwys a chynrychioli’r eglwys leol yn yr Henaduriaeth. Mae llawer o flaenoriaid hefyd yn pregethu ac yn trefnu addoliad, ac y mae nifer cynyddol ohonynt yn cael eu hyfforddi i weinyddu’r sacramentau. Mae blaenoriaid hefyd yn ymddiriedolwyr gweithredol yr eglwys leol (ynghyd â’r gweinidog a’r swyddogion eraill nad ydynt yn flaenoriaid).
Caplaniaeth
Mae Caplaniaid yn weinidogion sy’n gwasanaethu mewn mannau gwaith megis ysbytai, diwydiant a’r lluoedd arfog. Mae sawl gweinidog gydag EBC yn gaplaniaid rhan amser mewn mannau megis Maes Awyr Caerdydd ac Ysbyty Glan Clwyd.