Plant a Ieuenctid

Mae’r Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid yn ymrwymo i ddysgu, yn gywir a chreadigol, ein plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a’n teuluoedd, beth yw cynnwys a pherthnasedd y Beibl. Anogir hwy i gymhwyso’r ddysgeidiaeth i’w bywyd personol er mwyn bod yn ddisgyblion ffyddlon i Iesu Grist ac yn ddinasyddion cwir. ‘Rydym yn eu hannog i ystyried eu perthynas gyda’r Iesu ac i ddarganfod y doniau a roddwyd iddynt gan Dduw. Gofynnwn iddynt hefyd i feddwl pa ran sydd ganddynt hwy i’w gynnig i’r eglwys leol. Gobeithiwn fagu a hyfforddi arweinwyr newydd i’r Gymru gyfoes!

Mae ein Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid am gefnogi y rhai sy’n arwain plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a theuluoedd ar lawr gwlad drwy wrando, annog a chalonogi, hyfforddi, paratoi a chynghori ar adnoddau addas i’w gwaith.


Y Gwasanaeth Plant a Ieuenctid / Children and Youth Service gan EBCPCW ar Vimeo.

Gwaith Plant

Y mae clybiau plant Cristnogol sy’n cyfarfod yn syth ar ôl ysgol neu hwyr y prynhawn yn boblogaidd iawn mewn sawl ardal yng Nghymru. Gallwn gynorthwyo’r eglwys leol i sefydlu a chynnal Clybiau Plant Cristnogol a chynnig cyngor i athrawon Ysgolion Sul.

Gwaith Ieuenctid

Y mae parhad yn bwysig iawn mewn gwaith plant ac ieuenctid! Dylai’r eglwys ddarparu clwb i’r plant sy’n rhy hen i fynychu’r clwb plant. Gallwn gynghori’r eglwys ar sut i sefydlu a chynnal Clybiau Ieuenctid Cristnogol.

Gwaith Ieuenctid Hŷn

Y gwaith ymhlith yr ieuenctid hŷn yw ceisio eu casglu ynghyd i’w hyfforddi a’u hannog i wasanaethu yn y Gymru gyfoes drwy eu heglwysi lleol. Gwneir hyn drwy Souled Out

Gwaith Teulu

Gallwn gynorthwyo’r eglwys leol yn ei gwaith ymhlith teuluoedd eu bro.Dylai adeiladu perthynas gyda theuluoedd fod yn un o brif amcanion yr eglwys leol.

Gwaith Ysgolion

Gallwn gynorthwyo’r eglwys leol i sefydlu perthynas gyda’r ysgol leol. Gall ein gweithwyr ysgolion:

roi cyngor ar sut i gychwyn grwp Agor y Llyfr.

roi cyngor ar sut gall aelodau’r eglwys gynorthwyo’n ymarferol yn yr ysgol leol.

Coleg y Bala

Mae Canolfan y Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid yn cynnal cyrsiau i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Myfyrwyr Blwyddyn Gap

Cynigir cyfle i ddau berson ifanc dreulio blwyddyn yng Ngholeg y Bala. Mae’r FLWYDDYN GAP yn gwrs ymarferol mewn meithrin disgyblion sy’n para blwyddyn (Medi-Awst) ac wedi ei leoli yng Ngholeg y Bala, Canolfan Plant ac Ieuenctid Eglwys Bresbyteraidd Cymru.

Amcanion y FLWYDDYN GAP yw:

annog datblygiad personol ac ysbrydol
ymdrechu tuag at fod â chymeriad cynyddol Grist-debyg
cynorthwyo pob myfyriwr i adnabod ei ddoniau a’i botensial
datblygu sgiliau arwain, cyfathrebu ac adeiladu tîm effeithiol
cynorthwyo a galluogi pob myfyriwr i ddirnad sut gyfraniad y gall ei wneud i’r Eglwys.

Hyfforddiant

Cynigir hyfforddiant ar amrywiol bynciau priodol yn ymwneud â gwaith plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a theuluoedd.

Adnoddau

Adnodd Clwb Plant drwy’r post/ebost – 30/03/2020

Cyfres ar Weddi – 6 Gwasanaeth ar gyfer Ysgolion Cynradd
Cynllun i Achub – 6 Sesiwn Clwb Ieuenctid
Pobl Dduw – 6 Gwasanaeth ar gyfer Ysgolion Cynradd
Duw, Fi a Byw Bob Dydd – 6 Gwasanaeth ar gyfer Ysgolion Cynradd
Cnau Coco Caled – 6 Sesiwn Clwb Plant
Cyfres y Pasg – 5 Sesiwn Clwb Ieuenctid

Gweithwyr Bro

‘Rydym yn cynnig cyngor ar gyflogi gweithwyr plant, pobl ifanc, ieuenctid hŷn a theuluoedd yn lleol. Dros y blynyddoedd rydym wedi cynorthwyo nifer o ardaloedd i sefydlu ymddiriedolaethau cyd-enwadol i’r perwyl hwn.

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth Plant ac Ieuenctid
Y Coleg
Y Bala
Gwynedd
LL23 7RY

01678 520565

ieuenctid@ebcpcw.cymru