Y Weinidogaeth Iacháu

Anfonodd Iesu ei ddilynwyr i rannu’r Newyddion Da ag eraill ac i iacháu y cleifion (Luc 9.:2). Fel Cristnogion credwn fod Iesu yn fyw heddiw a bod ei Ysbryd yn gweithio trwom.

Sylfeinir Gweinidogaeth Iacháu Eglwys Bresbyteraidd Cymru ar y gred fod Iesu’n ein caru ac yn deall pob un ohonom. Pan drown ato, bydd yn gwrando arnom ac yn ymateb, gan ddefnyddio ein gwahanol dalentau yn gyfrwng i iacháu eraill.

Yn 1954, cychwynnodd Eglwys Bresbyteraidd Cymru fudiad iacháu er mwyn hyrwyddo dealltwriaeth ac ymarfer Iacháu Cristnogol. Ers hynny, mae nifer o fawr o bobl wedi ymwneud â’r gwaith, drwy dderbyn a bod yn rhan o’r gwaith. Yn ystod y cyfnod hwn gwelwyd cynnydd yn y diddordeb mewn Iacháu Cristnogol mewn canghennau eraill o’r Eglwys, ac erbyn heddiw mae llawer o eglwysi drwy’r byd yn derbyn y weinidogaeth hon fel rhan naturiol o’u gwaith a’u haddoliad.

Mae’n bosib na ddaw Iachâd i ni fel y disgwyliwn, ond pan drown at Iesu yn ein hangen a gofyn iddo ddod i’n sefyllfa, fe fydd bob amser yn ein cyfarfod yno ac ni fydd yn ein gadael byth.. Mae’r Weinidogaeth Iacháu yn cyffwrdd pob rhan o’n bywyd. Mae’n cyffwrdd ein perthynas ni â Duw, â ni ein hunain ac â’r byd o’n cwmpas. Mae’n gweithio mewn harmoni gyda’r proffesiwn meddygol, gyda nyrsys, a’r sawl sydd yn ymwneud â gofal dros gleifion ac mae’n cydnabod bod Duw yn defnyddio sawl dull i’n hiachau

Cawn ein rhybuddio gan y Weinidogaeth Iacháu rhag peryglon ysbrydegaeth ac effaith niweidiol yr ocwlt. Mae’r Weinidogaeth hon yn ymwneud â phob rhan ohonom – yn gorff, meddwl ac ysbryd. Mae’n gyfrwng dod â thangnefedd a harmoni i fyd anghenus.

Mae gweithgarwch y Weinidogaeth Iacháu yn cynnwys cynnal cyfarfodydd lleol yn y Gymdeithasfa yn y tair talaith, trefnu encil flynyddol yng Ngholeg Trefeca pryd y ceir cyfle i weinidogaethu i’n gilydd, gwrando, gweddïo a chael ein hadnewyddu. Mae’r Ysgol Haf flynyddol, sydd wedi ei chynnal ers y 1950au, bellach yn cyfarfod yng Cefn Lea, Dolfor ger Y Drenewydd. Bydd yn cynnwys gwasanaeth bendithio/ iacháu, gwaith mewn grwpiau bach, addoliad, a chyfle i wrando ar siaradwr gwadd yn ymdrin â thema Iacháu.

Am fwy o wybodaeth am y Weinidogaeth Iacháu, cysylltwch â’r Ysgrifennydd,

Nerys Rowlands – cyfeiriad: Pandy, Cefnddwysarn, Bala, Gwynedd LL23 7LN neu ar ebost – nerysrowlands@hotmail.co.uk