Eisiau Bedyddio Eich Plentyn?

Y Gwasanaeth Bedydd

Bedyddio ydi’r cam cyntaf mewn taith ryfeddol efo Duw, rhieni, cyfeillion, teulu, a’r eglwys. Dyma gychwyn oes gyfan o ddarganfod mwy am gariad, ffydd agobaith – amser arbennig i’w ddathlu.

Gallwch holi’r gweinidog, blaenor, neu eraill yn eich capel lleol ynglŷn â chael bedyddio eich plentyn. Bydd y gweinidog yn sgwrsio efo chi ynglŷn â beth all bedydd ei olygu i chi a’ch teulu.

Beth sy’n digwydd mewn bedydd?

Bydd eich plentyn yn cael ei b/fedyddio efo dŵr. Bydd pethau pwysig eraill yn digwydd yn y gwasanaeth:

  • Bydd y gweinidog yn gwneud siâp croes ar dalcen eich babi, efo’r dŵr. Mae hon yn foment bwysig, ac yn arwydd i’n hatgoffa o iachawdwriaeth Duw. Mae’n cydnabod bod eich plentyn yn dod yn rhan o eglwys Iesu Grist. Dyma fedydd eich plentyn.
  • Byddwch chi’n gwneud addewidion pwysig dros eich plentyn
  • Bydd y gweinidog yn gweddïo dros eich plentyn, gan ddod â hi/fo wrth ei henw/enw o flaen Duw
  • Bydd y gweinidog yn gweddïo drosoch chi fel rhieni, a thros bawb fydd yn cefnogi eich plentyn ar lwybr ffydd
  • Mae pawb sy’n bresennol yn addo cefnogi eich plentyn, a chi fel rhieni, wrth i chi ei m/fagu

‘RYDW I’N EICH BEDYDDIO CHI YN ENW’R TAD, Y MAB A’R YSBRYD GLÂN’

Paratoi ar gyfer y gwasanaeth

Bydd y gweinidog yn eich gwahodd i ddod i’r capel o flaen llaw, i gyfarfod efo rhai o deulu’r eglwys, ac i chi ddod yn gyfarwydd efo’r lle

Dydd y Bedydd

Fel arfer bydd y bedydd yn digwydd ar ddyddiad cyfleus i bawb, fel rhan o wasanaeth ar y Sul, efo teulu’r eglwys yn bresennol. Mae hwn yn ddiwrnod
arbennig iawn!

Gallwch wahodd eich teulu a’ch ffrindiau i’r gwasanaeth, a bydd teulu’r eglwys hefyd yn bresennol, yn ymuno efo chi a’ch gwesteion mewn gweddi a chefnogaeth ar gyfer y daith ryfeddol sy o’ch blaen.

Mae eich plentyn yn werthfawr iawn i chi, ac yn werthfawr i Dduw. Rydych chi eisiau’r gorau posibl i’ch plentyn, ac mae Duw eisiau hynny hefyd.

Rhoi diolch i Dduw am ryfeddod eich plentyn, a gofyn am ei ddoethineb a’i gymorth i chi fel rhiant, sydd wrth graidd bedyddio. Rydych yn mynegi eich
gobeithion dros eich plentyn, ac yn ei ch/ gyflwyno i dyfu i fyny o fewn teulu’r eglwys fyd-eang.

Dim ond y cychwyn yw bedyddio, cychwyn ar daith arbennig iawn…

Ar ôl y gwasanaeth

Mae gwahoddiad cynnes i chi a’ch teulu ddod i’r capel unrhyw adeg. Bydd y capel yn cadw mewn cysylltiad efo chi os ydych yn hapus iddynt wneud hynny. Os ydych yn symud tŷ, bydd capel arall yn eich ardal newydd – mae’r eglwys bob amser yno ar eich cyfer.

Bydd rhai gwasanaethau arbennig o addas i deuluoedd a phlant – Oedfa Deulu, Oedfa Ddiolchgarwch neu Nadolig. Holwch eich gweinidog pryd fyddai’r amser gorau i ddod i’r capel efo’ch plentyn.

Cofiwch hefyd am weithgareddau plant yn eich capel – Clwb ganol wythnos ac ysgol Sul. Yma gall eich plentyn fwynhau dysgu am bethau’r ffydd mewn awyrgylch hwyliog, cefnogol, wrth ddod i adnabod teulu’r eglwys yn lleol.