
Rhaglen GOLUD
Trysori ffydd a bywyd y rhai sy’n byw â dementia i’w galluogi i barhau i addoli a chynnal eu ffydd yn Iesu.
‘Adnabod cariad Iesu a grym yr Ysbryd Glân yw fy help mwyaf i fyw gyda dementia.’ – Dementia from the Inside, Dr Jennifer Bute
Mae’n siŵr bod y mwyafrif ohonon ni yn adnabod rhywun o fewn ein cylch teulu, ffrindiau a chymuned sy’n byw gyda dementia, felly bydd prosiect newydd GOLUD o werth i bob un ohonon ni ac i’n cymdeithas Gristnogol leol.
Ein gweddi yw y bydd yr Arglwydd yn bendithio gweledigaeth GOLUD, i drysori ffydd a bywyd y rhai sy’n byw â dementia dros y blynyddoedd nesaf – Christine Hodgins – Cadeirydd Is-bwyllgor y Chwiorydd
Beth yw dementia?
Mae’r term dementia yn cynnwys ystod eang o symtomau. Mae’n effeithio ar bobl mewn ffyrdd amrywiol ac yn ogystal â’r broblem
o fethu cofio, ceir anhawster i weithio pethau allan ac i ddilyn sgwrs. Gall llawer o dasgau bob dydd hefyd fod yn fwy anodd.
Ond yr un person o hyd yw’r unigolyn â dementia. Mae’n nhw’n fam, tad, brawd, chwaer, ffrind neu gymydog rydych chi wedi’u
hadnabod erioed.
‘Mae’n anodd iawn esbonio beth yw dementia. Pan fydda i’n sgwrsio â rhywun, mae’n rhaid i mi wneud fy ngorau glas i wneud yn siŵr nad yw pobl yn meddwl nad oes gen i ddiddordeb am fy mod yn ymddwyn yn wahanol. Efallai nad ydw i’n gallu rhoi atebion fel y roeddwn i, ond mae gen i lawer i’w gynnig ac mae’n rhaid i chi ddal arni.’
Dyfyniad gan berson sy’n byw â dementia o daflen Gofynnwch Unrhyw Beth gan Gymdeithas Alzheimer.
Beth yw bwriad GOLUD?
Mae nifer o bobl yn teimlo y gall ffydd fod yn ffynhonnell o gymorth mawr yn ystod cyfnod o newid ac wrth wynebu heriau bywyd. Bwriad GOLUD, wrth gydweithio âg eglwysi, yw cefnogi bywyd ysbrydol unigolion trwy’r cyfnod o fyw gyda dementia, er mwyn iddyn nhw fedru dal gafael ar y pethau sy’n werthfawr i fywyd y Cristion – darllen y Beibl, addoli, gweddïo a pherthyn i gymuned yr eglwys.
Mae gweithredoedd bychain yn gallu cael dylanwad mawr!
‘Y newyddion da yw y gallwn wneud camau bychain gyda’n gilydd a chynnal eglwys sy’n gynhwysol a chefnogol i’r rhai sy’n byw â dementia a’u teuluoedd, i’w galluogi i barhau i addoli a chynnal fflam eu ffydd yn Iesu.’ Cheryl Williams, Ffrindiau Dementia.
Mae bywyd o ffydd ac addoliad yn rhoi sicrwydd i’r Cristion yn yr Arglwydd fel Bugail Da, ac yn ei addewid na fydd y ‘presennol na’r dyfodol, na grymusterau nac uchelderau na dyfnderau, na dim arall a grewyd, yn ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.’ Rhuf 8:38,39
Beth fydd cynllun GOLUD yn gwneud?
- Prif ffocws GOLUD fydd cynnig ymateb i anghenion ffydd a gofal aelodau eglwysi sydd ar sbectrwm o gyflwr dementia,
ynghyd â’u gofalwyr, trwy ddatblygu ac addasu adnoddau Beiblaidd at ddiben oedfaon a defosiwn personol – i ennyn cysur
a gobaith.
- Codi ymwybyddiaeth am ddementia, trwy gynnig sesiynnau Ffrindiau Dementia a Pencampwyr Dementia (Cymdeithas Alzheimer) i aelodau eglwysig, arweinwyr a gweithwyr o fewn eglwysi ac enwadau. Rhannu canllawiau ac arferion da ar sut i hybu amgylchedd dementia-gefnogol o fewn i gymuned yr eglwys gan nodi dylanwad y profiadau hyn ar y rhai sy’n byw â dementia a’u gofalwyr. Rhannu gwybodaeth am weithgareddau cefnogol ac ymarferol sy’n hyrwyddo lles y rhai sy’n byw â dementia a’u gofalwyr, o fewn i gymuned leol y capel, tebyg i gaffi neu ardd gof.
- Tudalen GOLUD ar wefan EBC a hefyd ar Facebook, i gyfeirio pobl at asiantaethau arbenigol sy’n darparu gwybodaeth a chyngor priodol i’r rhai sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd, eu cylch ffrindiau ac aelodau’r capel.
‘Fel pobl sy’ wedi eu creu gan Dduw, fe’n cedwir yn ei gof. Nid yw Duw yn gadael i ni fynd ac felly rydym yn parhau i fodoli, hyd yn oed pan fyddwn ni ein hunain wedi anghofio popeth, gan gynnwys Duw!’ Living with Alzheimer’s – a love story, Robin Thomson
Pam fod GOLUD yn berthnasol i ni heddiw?
Mae dementia yn fater iechyd cyhoeddus o bwys yng Nghymru. Credir fod tua 850,000 o bobl yn byw gyda dementia yn y DU. Eleni bydd 225,000 yn datblygu dementia – dyna un person bob 3 munud. Ryn ni am rannu gofidiau yr unigolion hyn ac yn credu y gall gair Duw a’i bobl gyfoethogi bywydau y rhai sy’n wynebu byw gyda dementia.
Sut fedrwn fod yn rhan o gynllun GOLUD?
Daliwch sylw ar y wybodaeth fydd ar gael ar dudalen GOLUD ar wefan EBC ac ar Facebook, yn ogystal â thrwy eich capel a’ch
henaduriaeth.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â
De Cymru: Sarah Morris – sarah.morris@ebcpcw.cymru
Rhif cyswllt: 01559 364928 / 07554005423
Gogledd Cymru: Carys Davies – carys.davies@ebcpcw.cymru
Rhif cyswllt: 01248 750323 / 07902 059832
Sasiwn y Dwyrain: Samantha Hodgins – sam.hodgins@ebcpcw.cymru
Rhif cyswllt: 07581 214847