Yng ngoleuni’r cyhoeddiad ynghylch y Canolfannau, gweddïwn dros bawb sy’n wynebu ansicrwydd.
Rydyn ni’n dod atat ti heddiw ac yn gofyn am ddewrder. Wrth i ni wynebu llawer o bethau anhysbys, mae arnom angen Dy gryfder a’th arweiniad yn fwy na dim. Uwchlaw doethineb y byd, mae arnom angen Dy ddoethineb Di. Diolch i Ti am fod yn ffyddlon yn rhoi doethineb i ni pan ofynnwn mewn ffydd a ddim yn amau. Helpa ni i ymddiried yn Dy ffyrdd, gan wybod bod gennyt Ti’r holl atebion ar gyfer ffydd a bywyd. Wrth i ni gamu ymlaen gofynnwn am Dy ddarpariaeth, eglurder a heddwch.
Arglwydd, heddiw wrth i ni gerdded i mewn i’r anhysbys helpa ni i’th weld di. Dduw, anoga ein calonnau â gwirionedd Dy Air – rwyt Ti gyda ni, Ti bia ni, byddi di yn ein cryfhau, byddi di yn ein helpu ni, a byddi di yn ein dal ni.
Tynna ein holl ofnau, wrth i ni gofio mai mawr yw dy ffyddlondeb.
Diolch am dy addewid hardd dy fod gyda ni ni waeth beth sy’n ein hwynebu. Ac ni waeth beth sy’n ein hwynebu, ni fyddi byth yn gadael ein hochr. Arglwydd, gofynnwn i ti roi dewrder inni fod yn gryf a chael ein calonogi gan nad ydym yn cerdded ar ein pennau ein hunain. Mae’n cymryd dewrder i barhau i gerdded pan fydd popeth o’n cwmpas yn gwneud inni deimlo ar goll. Gofynnwn i ti ein hatgoffa o’r dewrder rwyt wedi’i roi inni i oresgyn unrhyw ofn yr anhysbys. Gofynnwn i ti ein tywys yn ôl at dy Air yn llawn addewidion fel yr adnod hon. Ymddiriedwn ynot yn dy Air.
Diolch i ti, Arglwydd, dy fod yn gwybod beth sydd orau i ni, bod gennyt ti gynllun eisoes. Cynllun rwyt wedi’i gael o’r dechrau, ac y byddi yn ei weld drwyddo i’r diwedd. Atgoffa ni mewn eiliadau o amheuaeth a theimlo ar goll, er bod pethau’n ymddangos yn anhysbys, rwyt ti eisoes yn gwybod y cyfan. Bod gennyt gynllun mwy, ac mae’r cynlluniau hynny’n dda, ac yn ein galluogi i ffynnu a bod yn obeithiol. Dad, adeilada ein hymddiriedaeth ynot ti, gan ein hatgoffa yn aml pa mor ffyddlon yr wyt ti.
“Na ofelwch am ddim: eithr ym mhob peth mewn gweddi ac ymbil gyda diolchgarwch, gwneler eich deisyfiadau chwi yn hysbys gerbron Duw. 7 A thangnefedd Duw, yr hwn sydd uwchlaw pob deall, a geidw eich calonnau a’ch meddyliau yng Nghrist Iesu”.
“Oni orchmynnais i ti? Ymgryfha, ac ymwrola; nac arswyda, ac nac ofna: canys yr ARGLWYDD dy DDUW fydd gyda thi, i ba le bynnag yr elych”.