Roedd bod yn Karlsruhe ac yn rhan o Gymanfa Cyngor Eglwysi’r Byd yn fraint ac yn brofiad na fyddai fyth yn ei anghofio – tua pedair mil o bobl o 352 o enwadau Cristnogol o bob cornel o’r byd. Dim un person fel fi yno er bod rhyw bump ohonom yn siarad cymraeg. Dwi ddim yn siwr faint o wledydd gwahanol y cefais y fraint o gyfarfod cynrychiolwyr ohonynt – gormod i’w rhestru!
Cyd-addoli oedd sylfaen y gymanfa – yn y prayer tent – dim waliau! Cawsom gyfle i ganu a chlywed darlleniadau ymhob iaith a sylweddoli nad ydio mor bwysig i ddeall popeth drwy’r amser. Roedd rhyw undod rhyfeddol yn bodoli wrth i ni gydweddio a chanu efo’n gilydd heb ystyried y rhwystrau a’r gwahaniaethau dwl dani mor aml yn eu gosod rhyngom a’n gilydd.
Y prif fater dan sylw yn fy grwp bach i oedd Newid Hinsawdd a chlywsom yn glir iawn gri’r bobl sy’n dioddef yr effeithiau mwyaf eithafol – y bobl dlotaf, wrth gwrs, pobloedd cynhenid sy’n byw’n agos at y tir a’r goedwig ond sy’n gweld cwmniau mawr a phatrymau tywydd anwadal yn bygwth eu diwylliant a’u bywoliaeth wrth i bobl gael eu gorfodi i fudo i’r trefi a’r dinasoedd.
Rhoddwyd cryn sylw i’r rhyfel yn Ewrop hefyd ond nid oedd modd anghofio’r ffaith bod cynifer o’r bobl yno’n dod o wledydd eraill sydd yn neu sydd wedi cael eu rhwygo gan ryfeloedd ac, efallai bod gormod o sylw wedi ei roi ar Wcrain a Rwsia o gofio hynny.
Gallwn fynd ymlaen ac ymlaen ond bydd cyfleon eto – dyma ddau bwynt gweddi i Deulu Trefeca:
Gweddiwch dros bawb fu yn y Gynhadledd – dros eu heglwysi a’u tystiolaeth yn lleol – ond hefyd dros ein tystiolaeth fel un teulu i gariad Crist sy’n symud y byd at gymod ac undod – Undod sy’n her ac yn gwlwm!
Gweddiwch dros bawb sy’n dioddef effeithiau Newid Hinsawdd – gan gofio bob cyfle sydd gennych i ateb y weddi honno wrth siopa, buddsoddi a phob dewis arall a wnewch bob dydd.