Mi rydan ni ynghanol Tymor y Creu o ran gwaith eglwysi Prydain ac Iwerddon – Roedd Sul yr Hinsawdd ar Medi’r 5ed yn fan cychwyn nodedig o berthnasol eleni yn doedd – a’r holl newyddion o bob cornel o’r byd am dannau gwyllt, llifogydd, sychder a chorwyntoedd yn chwalu bywoliaethau a gobaith.

Yr wythnos hon mae Cymanfa Gyffredinol EBC yn cyfarfod yng Nghaernarfon – ac ymysg y pethau pwysicaf yno bydd lansio Apel Arbennig Cymorth Cristnogol a ffocws amlwg ar Newid Hinsawdd yn Kenya a Haiti. Byddwn hefyd, gobeithio, yn derbyn y Polisi Amgylcheddol newydd fydd yn ganolog i gynllunio gwaith ein heglwysi ar bob lefel i’r dyfodol.

Un o’r darlleniadau yn y Llithiadur ar Sul yr Hinsawdd oedd hanes Iesu’n iachau’r dyn mud a byddar Marc 7. Iesu’n ochneidio a dweud Eph-phatha – Agorer Di. Mae Newid Hinsawdd yn un o’r materion yr ydym yn rhy aml o lawer wedi cau ein llygaid, ein calonnau, ein meddyliau a’n pocedi iddo! – Eph-phatha!

Mae emyn W Rhys Nicholas, a gomisiynwyd gan Cymorth Cristnogol rai blynyddoedd yn ol yn crisialu ein gweddi – rhif 841 yn Caneuon Ffydd

Agor di ein llygaid, Arglwydd
i weld angen mawr y byd
gweld y gofyn sy’n ein hymyl
gweld y dioddef draw o hyd
maddau inni bob dallineb
sydd yn rhwystro grym dy ras
a’r anghofrwydd sy’n ein llethu
wrth fwynhau ein bywyd bras
Agor di ein meddwl Arglwydd
er mwyn dirnad beth sy’n bod
gweld beth sy’n achosi cynni
a gofidiau sydd i ddod
dysg in dderbyn cyfrifoldeb
am ein rhan os ym ar fai
maddau inni os anghofiwn
gyflwr yr anghenus rai