Y Weinidogaeth Iacháu
Gweddi gan Arthur Rowlands ar ran Y Weinidogaeth Iachau Mae eu cynhadledd yn cael ei chynnal yng Nghefn Lea , Drenewydd, 23- 26 Mai 2002 E-bostiwch am fanylion- nerysrowlands@hotmail.co.uk
“Arian ac aur nid oes gennyf; ond yr hyn sydd gennyf, hynny yr wyf yn ei roi i ti; yn enw Iesu Grist o Nasareth, cyfod a rhodia.” (Actau 3: 1-10)
Paham mynychu Ysgol Haf y Weinidogaeth Iacháu? Eleni yn fwy nag erioed mae angen amser ar bob un ohonom i gael cyfnod estynedig yng nghwmni Cristionogion o’r un anian. ‘O Iesu mawr, rho d’anian bur i eiddil gwan mewn anial dir’ oedd cri yr emynydd a dyna ein cri ninnau hefyd wrth i ni nesu at ein gilydd a nesu at yr Iesu, ei ddwyfol loes a’i atgyfodiad ar y trydydd dydd.
Mae yn amser i ninnau ddod at y ‘Porth Prydferth’. Gofynnwn i’r Iesu ein codi ninnau ar ein traed – i godi eglwys Crist ar ei thraed unwaith eto. ‘Ar y graig hon yr adeialadaf fy Eglwys’ meddai’r Iesu am Seimon Pedr a dyma ein gweddi heddiw eto ar i Fab y Dyn ddychwelyd i ail sefydlu ei Eglwys yng Nghymru fach a chymeryd ei le unwaith eto ar ei orsedd ac yn ein calonnau. Dewch gyda ni gan ‘gerdded a neidio a moli Duw’.
Gweddïwn :
Arglwydd da, gwyddom bod unrhyw beth yn bosibl i Ti a gwyddom pan y gofynnwn unrhyw beth yn dy enw di bod hynny hefyd yn bosibl. Rydym wedi byw drwy gyfnod rhyfedd a rhyfeddol yn hanes dyn ac ynghanol cyfnod erchyll o ryfel yn yr Iwcrain. Cyflwynwn bobl yr Iwcrain i dy ofal Arglwydd ac erfynniwn dy gymorth i ddatrys y sefyllfa echrydus yma.
Mae cyfnod y Covid wedi gadael creithiau dwfn ar lawer i deulu Dad Nefol a gweddïwn arnat i ymestyn dy fraich nerthol i’w hymgeleddu. Gwyddom am ‘weinidogaeth iacháu’ dy annwyl Fab, ein Harglwydd Iesu Grist a gofynnwn i ti ein defnyddio ninnau i rannu dy gariad ac i leddfu poen ein cyd-aelodau a dy bobl ble bynnag y maent.
Gofynnwn i Ti, yn ôl dy arfer, ‘symud yn ein mysg’ yn ystod ein Ysgol Haf eleni eto.’Tyrd atom ni o grȅwr pob goleuni, tro di ein nos yn ddydd’. Mae gwahoddiad i bawb sydd yn sychedig ddyfod atat Ti ac estynnwn ninnau yr un gwahoddiad i unrhywun sydd mewn angen ddyfod atom ni yng Nghefn Lea, byddwn ni yno a’r Hollalluog hefyd.
Gofynnwn hyn oll yn Enw ac yn haeddiant dy unig andeig Fab a roddodd ei einioes drosom.
Amen.