Gadewch i’r eglwys barhau i weddïo dros unigolion sydd heb ddychwelyd i’n hadeiladau eglwysig sydd ar agor i addoli. Mae hyn yn aml oherwydd oedran neu anabledd, ac eto rydym yn parhau i ofyn bendith Duw ar bawb sy’n dal i ofni pandemig y Covid. Wrth i’n hyder gynyddu wrth i’r cyfyngiadau gael eu lleddfu, a gawn ni ddod o hyd i ffydd gynaliadwy sy’n ein hannog eto i gymrodoriaeth ddofn.

Gwelwn sut mae Duw yn eich derbyn chi, darllenwch Actau Pennod 10 adnodau 39 -48 a darllenwch eiriau araith mawr Pedr i Cornelius wrth iddo barhau i bregethu iachawdwriaeth yn Iesu Grist. Mae’r geiriau hyn yno i ni gymryd cysur ynddynt, ac i gael sicrwydd o gariad Duw tuag atom a dod i adnabod yr Arglwydd Iesu yn well wrth inni adfer o ddyddiau’r clo.

Gweddi

Ysbryd Duw, sydd yn wynt sy’n rhuthro.

Gad inni deimlo gwynt gobaith yn ein hwynebau.

Anoga ni i fod yn feiddgar, ein bod yn ymestyn allan i’th gofleidio.

Gad i’r gwynt hwnnw ruthro i’n sicrhau, ein cynnal a’n cyflawni ni.

Ysbryd Duw ar ffurf sy’n newid yn barhaus, bydded inni weld gweledigaethau o’th gariad.

Gad inni dy ddilyn gyda ffydd ddyfnach mewn gwirionedd a cyfarwydda ni yn ein gweddïo.

Gad i’th Ysbryd chwythu lle y bydd a gwna ni’n un wrth rannu y Newyddion Da am Iesu gydag eraill.

Diolchwn i ti am Trefeca, ei hanes, gwna fo yn fan ble mae pererinion yn mynd.

Gwna fo’n fan ble mae dy air yn cael ei rannu yn ei leoliad tawel o dan fynydd, ger llyn a chefn gwlad gwyrdd.

Rho dy heddwch inni.

Trwy Iesu Grist ein Harglwydd

AMEN