Ers yn fachgen bychan mae edrych ar amrywiaeth blodau gwyllt ym môn clawdd wedi fy nghyfareddu i – y cymysgedd o liwiau yn binc, melyn, glas neu wyn yn cydblethu yn harmoni rhyfeddol a phrydferth yn eu cynefin naturiol o laswellt a choed. Dysgais adnabod y briallu, y briallu mair, clychau gleision, ffacbys, y feillionnen, y milddail ac ati. Eu gweld fel creadigaethau unigol rhyfeddol a chyda’i gilydd yn gytgord o harmoni perffaith. Ac y neu sgil daw’r ymdeimlad cyfriniol-chwilfrydig i gyffwrdd yn dyner â’r meddwl a’r dychymyg. Mae rhyfeddod yn agor drysau. Un crefftus gyda greiriau yw Ioan, yr efengylydd. Mae yntau yn defnyddio’r cyfarwydd i agor drysau rhyfeddod a chyflwyno Iesu ni. Mae bara yn troi’n fara’r bywyd a dŵr yn ddŵr bywiol. Dw i’n arbennig o hoff o’r drws sy’n agor i ni yn adnod 21 o bennod 20 o’i efengyl ble y gwelwn y disgyblion unig mewn dadrithiad ac ofn wedi cloi y drws. Dyna’n peryg ninnau sy dan warchae anghrediniaeth ffyrnig a chaled ein dydd – cau y drws a throi i mewn arnom ein hunain a meithrin meddylfryd o ‘warchod’ neu ddiogelu. Ond rhyfeddod harmoni Duw ydi profiad Pasg- Pentecost hefyd. (Ioan yn cyplysu y ddeubeth) Daw Iesu, sefyll yn y canol, cyfarch a chalonogi, anfon a galluogi, hyderu i dal ati a dyna ddatgloi’r drws… ac allan a nhw! Ni bu’r byd yn hollol yr un fath wedyn.
Gweddi:
Arglwydd, Dduw ein tadau, o ddyddiau cynnar ein cenedl rhoist i ni’r gallu i ryfeddu. Nid yn unig at ryfeddodau gwaith dy ddwylaw ond i ryfeddu mwy at brydferthwch Iesu o Nasareth ymysg ei bobl ac yn troi hacrwch y groes yn brydferthwch gobaith a bywyd newydd i dynoliaeth a chreadigaeth gyfan. Mewn rhyfeddod a diolch molwn Di. Dyrchafwn Di mewn llawenydd. Dysg ni i ryfeddu fwyfwy at brydferthwch dy holl ffyrdd i’n calonogi a’n hysgogi i rannu prydferthwch mewn dyddiau dwys, gofidus a thywyll. Amen