Edrychodd Duw ar bopeth roedd wedi’i wneud, a gweld fod y cwbl yn dda iawn.(Gen 1:31)
Ar drothwy’r haf, edrychwn ymlaen at
– weld ffrindiau a theulu
– eisteddfod, sioeau lleol a digwyddiadau cymunedol
– gael crwydro ar wyliau a dyddiau allan
– eistedd yn yr ardd
– mynd am dro
– hufen ia, gwenu, a theimlo’r gwres ar ein croen.
Rydym yn dy adnabod Di yn y pethau hyn i gyd – rwyt ti’n amlygu dy hun o’n cwmpas mewn
– Cymdeithasu, hwyl a chariad
– Creadigrwydd
– Llonyddwch a bodlonrwydd
– Corff ystwyth, blasau , golygfeydd ac ogleuon da
Rydym yn dy fwynhau Di, yn dymuno cael ein llenwi efo dy ddaioni Di, ac yn dymuno gorlifo efo dy gariad creadigol Di, drwy dy Ysbryd. Amen