Mae’r ysgolion yn ail agor, a’r tymor coleg yn cychwyn. Mae gwyliau’r haf tu cefn i ni – mae hi’n amser mynd i’r afael a pethe newydd, a rhoi trefn ar waith y tymor.

Ein Tad Nefal, gweddiwn yn arbennig y mis yma am y cynllunio a’r cyd-weithio ar gyfer y defnydd o adeilad Trefeca o hyn hyd ddiwedd y flwyddyn. Rydym yn troedio llwybr newydd,  yn addasu ar gyfer byd efo Covid. Gofynnwn am dy ddoethineb, dy weledigaeth, dy frwdfrydedd di – Duw y Creawdwr sy’n rhoi bywyd newydd i ni bob dydd. Canwn gan newydd i ti fel y Salmydd; edrychwn mlaen at wneud pethe newydd yn ein heglwysi, mewn gweithgareddau plant a theuluoedd, ac yn y defnydd o Drefeca.

Gweddiwn dros  fyfyrwyr EBC –  y rhai sy’n astudio i fynd i’r weinidogaeth (Nerys, Rebecca a Corey), a dros ein myfyrwyr eraill sy’n dilyn cyrsiau yng Ngholeg y Bedyddwyr yng Nghaerdydd a thros y we.

Gweddiwn dros rai sy wedi bod yn dilyn cwrs ar Bregethu ac Arwain Addoliad, a dros flaenoriaid sy wedi dilyn y Cwrs Sacramentauyn ddiweddar.

Rydan ni’n diolch am bob un o’r bobl hyn, ac am yr awydd yn eu calonnau i gynorthwyo a meithrin ffydd ymysg aelodau EBC. Bendithia nhw yn eu hastudiaethau a rho iddynt feddwl clir wrth iddynt ystyried eu rhan yn nyfodol yr eglwys a dy Deyrnas.