Gweddi ar gyfer Uwchgynhadledd COP26.

Glasgow 31 Hydref – 12 Tachwedd

Annwyl Dduw, ers miloedd o flynyddoedd rydym ni wedi byw yn ôl rhythm y tymhorau. Fel cylch di-ddiwedd maen nhw’n dod o gwmpas bob blwyddyn: Gaeaf, Gwanwyn, Haf, Hydref. Mae ein haddoliad hefyd yn disgyn i’r un patrwm. Yn oerfel mis Rhagfyr pan fydd y ddaear yn segur, rydym yn dathlu genedigaeth ein Gwaredwr – goleuni yn nhywyllwch y gaeaf. Yn y Gwanwyn, rydyn ni’n hau hadau ac yn gwylio ein cnydau’n tyfu, wedi’u dyfrio gan gawodydd mis Ebrill, ac mae ein hanifeiliaid yn dychwelyd allan i’r tir o’u chwarteri gaeaf. Rydym ni hefyd yn dathlu’r Pasg, gan gofio sut y bu farw ein Harglwydd a’n Gwaredwr ar y Groes er ein mwyn, ac yna codi oddi wrth y meirw, gan drechu marwolaeth am byth. Ac yna wrth i’r dyddiau ymestyn i’r Haf mae’r cynhaeaf yn dechrau: gwair a silwair ar gyfer y stoc, a ffrwythau a llysiau yn y gerddi. Mae’r ysgolion yn cau ac rydym yn cynllunio ein gwyliau haf. Mae’r hydref yn gweld y dyddiau’n mynd yn fyrrach unwaith eto wrth i ni gynaeafu’r haidd, gwenith, ceirch ac indrawn. Ac yn ein gwasanaethau Cynhaeaf rydym yn diolch i ti Arglwydd Dduw am ein bwyd, yr heulwen, y glaw a rheoleidd-dra’r tymhorau.

Yna mae’r cylch yn dechrau eto, rownd a rownd mewn cylch, fel y mae wedi ers miloedd o flynyddoedd. Ond nawr mae yna “graciau” yn dod i’r amlwg; mae’r cylch yn dechrau syrthio i ddarnau. Dechreuodd dros 100 mlynedd yn ôl wrth i ni ddechrau llosgi tanwydd ffosil i gynhesu ein cartrefi, pweru ein ffatrïoedd a chynhyrchu dur a chopr. Parhaodd wrth i ni agor purfeydd i gynhyrchu petrol a disel ar gyfer ein cludo, a nwy ar gyfer ein coginio a’n gwres canolog. Nid oeddem yn sylweddoli bod y nwyon yr oeddem yn eu pwmpio i’n hatmosffer fel sgil-gynhyrchion popeth yr oeddem yn eu cynhyrchu yn dinistrio ein byd. Yna gwelsom fod cyfansoddion sylffwr a ollyngwyd o’n diwydiannau trwm yn gwenwyno ein hafonydd ac roedd Clorofluorocarbonau (CFCs) a ddefnyddir mewn erosolau ac oeryddion, yn torri’r osôn yn yr atmosffer uchaf, yn anfon pelydrau UV niweidiol ar ein planed. Ac yn awr mae ein tymhorau yn newid; mae mwy o donnau gwres, sychder, corwyntoedd, tanau gwyllt, llifogydd, lefelau’r môr yn codi a cholli bioamrywiaeth ar draws y blaned.

Felly gweddïwn wrth i genhedloedd ddod at ei gilydd ar gyfer uwchgynhadledd COP26 y bydd cynnydd gwirioneddol o ran dod ag allyriadau i lawr i sero net. Fel arall, byddwn yn colli ein tymhorau, a bydd ein cylch yn dod yn linell syth gan arwain at ddinistrio’r byd yr ymddiriedait Ti i’n gofal.

Amen