Gyda’r argyfwng hinsawdd yn parhau i reibio ein byd, mae Wythnos Cymorth Cristnogol eleni yn canolbwyntio ar effeithiau’r sychder yn Zimbabwe. Er bod yr holl fyd yn teimlo effaith hinsawdd sy’n newid, y tlotaf sy’n dioddef fwyaf. Mae cyfle ichi gefnogi Wythnos Cymorth Cristnogol trwy fynd i’n gwefan: https://www.christianaid.org.uk/…/christian-aid-week
Dyma weddi ichi ei defnyddio yn ystod yr wythnos.
Arglwydd,
Wrth i’r argyfwng hinsawdd
barhau i ddifetha bywyd,
diolchwn iti
am hadau sychder-wydn;
bach ond cryf,
bach ond llawn gobaith,
bach ond llawn bywyd.
Yr Wythnos Cymorth Cristnogol hon,
plannaf fy hadau fy hun
o amser, ymdrech a rhoi.
Gyda’th fendith di,
bydded iddynt lewyrchu.
Amen.