Emyn 76
Mae Duw yn llond pob lle,
presennol ym mhob man;
y nesaf yw efe
o bawb at enaid gwan;
Wrth law o hyd i wrando cri;
“Nesáu at Dduw sy dda i mi.”
Yr Arglwydd sydd yr un
er maint derfysga’r byd
er anwadalwch dyn
yr un yw ef o hyd;
Y graig ni syfl ym merw’r lli;
“Nesáu at Dduw sy dda i mi.”
Yr hollgyfoethog Dduw,
Ei olud ni leiha,
Diwalla pob peth byw
O hyd â’i ‘wyllys da;
Un dafn o’i fôr sy’n fôr i ni;
“Nesáu at Dduw sy dda i mi.”
DAVID JONES 1805 – 68
Pan oeddwn i’n blentyn yn mynd i Gapel Pencaenewydd yn Eifionydd roedd Dydd Llun Diolchgarwch yn ddiwrnod mawr. Roedd y ‘Cyfarfod Gweddi’ yn bwysig. Roedd un ffermwr yn cymryd rhan bob blwyddyn, ac yn ledio’r un emyn bob tro. Emyn 61 yn yr hen Lyfr Emynau, 76 yn “Caneuon Ffydd”; “Mae Duw yn llond pob lle” Emyn David Jones, Treborth ydyw. Meddai Delyth G. Morgans yn “Cydymaith Caneuon Ffydd”; “Y mae’n amlwg i’r emyn gael ei seilio ar Salm 73:28 ….”
Salm 73: 28 Beibl William Morgan
28Minnau, nesáu at DDUW sydd dda i mi:
yn yr Arglwydd DDUW y gosodais fy ngobaith,
i draethu dy holl weithredoedd.
I mi, mae rhywbeth arbennig yng nghwpled olaf pob pennill. Yn y pennill cyntaf cawn y sicrwydd fod Duw yno, ar gael bob dydd. Mae mor agos fel ein bod yn gallu cydio dwylo. Hoffais ddiniweidrwydd y frawddeg hon, yn sôn am law Duw, a ddarllenais mewn gweddi’n ddiweddar. “Llaw fawr ydyw ac ynddi le i’n dwylo bach ni i gyd.”1. Roedd y ffermwr yn y Cyfarfod Gweddi yn gwybod hynny, a diolch iddo am wneud yr emyn yn emyn cyfarwydd i mi ac yn un o’r emynau sydd yn rhoi’r sicrwydd o agosatrwydd Duw i mi o hyd.
Yn yr ail bennill dywed yr emynydd fod Duw mor gadarn â’r graig, y graig y medrwn ni ymddiried ynddi ym mhob tywydd. Mae mwy nag un craig y gallasai David Jones fod yn cyfeirio ati. Gan ei fod yn weinidog ar lannau’r Fenai hoffaf yr awgrym mai “craig yng nghanol afon Menai lle saif un o golofnau Pont Britannia ….”2 ydyw. Darlun traiwadol iawn i ddisgrifio cadernid Duw.
Yn y trydydd pennill mae’r ddelwedd o’r môr yn dangos i ni mor fawr a nerthol a hael yw Duw. Trwy’i ‘wyllys da, meddai’r emynydd, mae Duw yn rhoi yn hael i ni a phob peth byw yn ei fyd.
Mae’r emyn yn darlunio Duw agos, cadarn, mawr a hael. Pwy all beidio ag ymddiried ynddo?
Gweddi: Diolch i ti, O Dad, am brofiadau cyfoethog bywyd, profiadau, hwyrach, na fu i ni eu llawn werthfawrogi ar y pryd, ond sydd wedi bod o werth mawr i ar ein taith ysbrydol dros y blynyddoedd. Cynorthwya ni i’w defnyddio i gynnal a chryfhau a dyfnhau ein ffydd o ddydd i ddydd, Amen
1 “Hwn yw’r Dydd” Elfed ap Nefydd Roberts, “Llaw fy Nhad” tud. 58
2Cydymaith Caneuon Ffydd tud. 51