CYMOD A HEDDWCH
‘Yr oedd Duw yng Nghrist yn cymodi’r byd ag ef ei hun, heb ddal neb yn gyfrifol am ei droseddau, ac y mae wedi ymddiried i ni neges y cymod.’ 2 Cor 5:19
O Arglwydd ein Duw, y Drindod Sanctaidd, diolch i ti am waith Iesu Grist, Tywysog Tangnefedd, i gymodi’r byd trwy’r groes, ac am ei atgyfodiad buddugoliaethus. Cymerodd ymaith y condemniad i gyd er mwyn i ni fod yn bobl y cymod yn dy wasanaeth. Ond mae’r byd yn llawn o drais a chasineb, rhyfela ac anghytgord ac mae angen fawr am gymod rhwng bobloedd a llwythau, mewn teuluoedd, ymysg crefydddau, rhwng enwadau, eglwysi a christnogion.
Trugarha wrthym a chlyw ein gweddi wrth i ni erfyn am i ti weithredu yn nerthol yn y sefyllfaoedd lle mae hanes, rhagfarn a gwahaniaethu ar sail hil yn anesmwytho bywyd y gymdeithas – heb sȏn am anghyfiawnder a haint – ac yn achosi ofn, sarhad, tlodi, trais a rhyfel. Edrych yn dyner ar dy fyd a gweithreda trwy dy Ysbryd yng nghalonnau arweinwyr y gwledydd i fynnu heddwch a chymod: cyflwynwn i ti wledydd Affrica, y Dwyrain Canol a’n gwlad ni gyda’i phroblemau. Diolch am Drefeca yn ganolfan ysbrydol a lle gweddi dros y byd cyfan.
‘Iȏr gwna fi’n offeryn dy hedd, lle bo casineb dof ȃ’th gariad di,
A lle bo dagrau gad im ddod ȃ gwên, cyfannu’r holl raniadau boed i mi.
O Arglwydd Dduw, na ad im geisio dim gan eraill, eithr rhoddi boed i mi,
Na foed im hawlio dim i mi’n y byd, ond rhoi i eraill fyddo’mraint o hyd.
Iȏr gwna fi’n offeryn dy hedd, lle bo amheuaeth boed im ddangos ffydd,
A lle bo gofid dof ȃ’th obaith di, i d’wyllch boed im ddod ȃ golau dydd.’ Caneuon Ffydd 868.