A ninnau yn nhymor y Diolchgarwch bu gofal Duw yn thema amlwg yn ein hoedfaon. Atgoffwyd ni mai ein hymateb i’w ofal Ef ddylai fod gofal am y byd ac am ein gilydd. Meddai Benjamin Francis;

Gofala Duw a Thad pob dawn
yn dyner iawn amdanom:
mae’n tai yn llawn o’i roddion rhad,
O boed ei gariad ynom.

Gall diolchgarwch heb gariad fod yn hunanol, yn canolbwyntio yn unig ar yr hyn a gawsom ni; ond mae’r anogaeth i ofalu yn tynnu’n sylw at anghenion pobl eraill. Ac mae’r byd yn llawn angen. Clywsom yn gyson yn ystod y misoedd diwethaf am effeithiau newid hinsawdd ar gymunedau ac unigolion, am ddiffyg glaw a thanau, am gorwyntoedd a stormydd. Clywsom hefyd am effeithiau rhyfel a therfysg yn Afghanistan, ac am sefyllfa argyfyngus y ffoaduriaid a geisia ffoi o Haiti. Prin y gallwn ni ddychmygu’r fath sefyllfaoedd, a chywilyddiwn wrth gofio am yr anhrefn achoswyd ym Mhrydain ychydig wythnosau yn ôl wrth i bobl ruthro i’r modurdai i brynu tanwydd, a hynny yn aml yn ddiangen.

Ond diolch y ceir hefyd le i ymfalchïo  yn ymateb anhunanol a charedig cymaint o bobl yn ystod y misoedd diwethaf. Cawsom olwg newydd ar gyfraniad amryw o weithwyr, gan gynnwys gyrwyr loriau, y bu i ni yn aml eu cymryd yn ganiataol. Gwelsom hefyd ymroddiad diarbed gweithwyr y gwasanaeth iechyd, athrawon a gofalwyr o bob math, sy’n aml yn edrych ar ôl aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas. Ac o fewn ein cymunedau a’n teuluoedd gwelwyd hefyd adfer yr hen bwyslais ar gymwynasgarwch a chymdogaeth dda.

I’r Cristion y symbyliad i ofalu yw cariad Duw yn Iesu Grist. Dyna’r cymhelliad saif wyneb yn wyneb â’n natur hunanol; ‘Yr ydym ni yn caru am iddo ef yn gyntaf ein caru ni’.

Gweddi

Oherwydd yr ydych yn gwybod am ras ein Harglwydd Iesu Grist, fel y bu iddo, ac yntau’n gyfoethog, ddod yn dlawd drosoch chwi, er mwyn i chwi ddod yn gyfoethog trwy ei dlodi ef. (2 Cor 8:9)

Ein Tad, diolchwn i ti am holl fendithion ein bywyd,
yn enwedig bendithion a amlygwyd mewn amgylchiadau anodd.
Ar adegau pan fu’n rhaid i ni bwyso ar ein gilydd,
llawenydd yn aml fu darganfod cymorth annisgwyl.
Yng nghanol helyntion rhyngwladol, rhyfel a therfysg
bu i rai  ymateb yn drugarog wrth geisio cymod.
Gwelwyd ffoaduriaid yn cael cymorth a chroeso,
pobl a gollodd bopeth mewn storm neu ddaeargryn yn cael cefnogaeth,
ac elusennau o bob math  yn gweithio’n ddiarbed i helpu’r anghenus.
Diolch i ti, fod cymaint o ofal yn ein byd.
Cynorthwya bawb ohonom i adlewyrchu yn ein bywyd beunyddiol natur garedig ac anhunanol Iesu Grist,
yr un, ac efe yn gyfoethog, a ddaeth yn dlawd er ein mwyn ni.
Boed i’w gariad ein hysbrydoli a’i esiampl ein cyfeirio.

Er mwyn ei enw. Amen.