Ar ran ein Heglwys, estynnwn ein cydymdeimlad dwysaf i’r Brenin ac aelodau eraill y Teulu Brenhinol ar farwolaeth ei Mawrhydi Y Frenhines.
Diolchwn i Dduw am ei bywyd, a dreuliwyd mewn gwasanaeth a dyletswydd i genhedloedd gwledydd Prydain. Yr oedd yn bresenoldeb cyson yn ein bywydau, fel yr unig Frenhines y bydd y rhan fwyaf ohonom yn ei chofio.
Cydnabyddwn gyda diolch ei ffydd Gristnogol, oedd yn gonglfaen i’w bywyd a gysegrwyd i wasanaeth.
Fe gofiwn y Brenin a holl aelodau’r teulu Brenhinol yn ein gweddïau, yn eu galar a’u colled, a diolchwn i Dduw am ei hymddiriedaeth yn Iesu Grist ac am ei hymroddiad i’r eglwys.