Ar  yr adeg yma o’r flwyddyn,  rydyn ni’n rhyfeddu, o Arglwydd, at yr holl liwiau a’r prydferchwch o’n cwmpas o ddinas i ddyffryn. Fe welwn wrth ddeffro yn gynnar niwl neu darth ar hyd y caeau ac wedyn fe ddaw’r haul i’w losgi ymaith. Braf cyfarch yr haul yn y bore O Dduw, ond eto nid yw hi’n heulog o hyd ac fe deimlwn yn aml bod niwl o’n hamgylch. Weithiau, mae ein hamgylchiadau yn golygu nad ydym yn gallu gweld yn bell iawn i unrhyw gyfeiriad. Fel hyn rydyn ni wedi bod yn ystod y pandemig ond mae’r haul yn llosgi’r niwl i ffwrdd, mae’r tarth yn cilio fel y gallwn ryfeddu o’r newydd at y ffordd o’n blaenau, a’r tirnodau sydd yn dal yno fel hen goeden dderw gyfarwydd a chadarn. Dwyt Ti, O Dduw, heb ddiflannu na’n gadael yn amddifad.

Rhoddi ‘rwyt dy drugareddau
Fel y golau glân bob dydd,
A’th fendithion i’n hanheddau
Yn sirioli’n bywyd sydd:
O’th gynteddau
Rhoddwn ninnau foliant rhydd.

Atgoffa ni nawr bod y pethe a’r bobl sydd mor werthfawr yn dal yno er gwaetha’r niwl, er gwaetha’r storm, er gwaetha rhagor o dywyllwch. Diolchwn nawr am dy gariad a’th gyfeillgarwch a fel rwyt Ti, o Dduw, yn defnyddio dy blant i fod yn gyfryngau dy gariad a’th garedigrwydd. Diolchwn nawr dy fod yn ein tywys ar hyd y ffordd.

Diolch byth yng nghanol pob tymor, fe welwn yr haul, fel y profwn wres a goleuni dy ras.

Helpa ni i’th gyfarch mewn ffordd ddiolchgar fel rwyt Ti yn ein cynnal a’n cysuro.

‘Hello, sun in my face.
Hello, you who made the morning
and spread it over the fields
and into the faces of the tulips
and the nodding morning glories,
and into the windows of, even, the miserable and the crotchety –

 best preacher that ever was,
dear star, that just happens
to be where you are in the universe
to keep us from ever-darkness,
to ease us with warm touching,
to hold us in the great hands of light –
good morning, good morning, good morning.
Watch now, how I start the day
in happiness, in kindness.’

Mary Oliver