Pan fyddwch chi’n pacio ar gyfer pererindod – i Drefeca neu Iona efallai – mae yna bethau a allai fod yn ddefnyddiol: beibl a llyfr nodiadau, rhywbeth i’w ddarllen. Pâr o esgidiau cerdded – a dillad gwrth-ddŵr wrth gwrs; arian i brynu cofroddion o’r siop; ffôn i gadw mewn cysylltiad â’r teulu a chamera i ddal yr eiliadau hudol hynny.
Wrth aros yn Abaty Iona yn ddiweddar gwnaethom groesawu dau ymwelydd annisgwyl a oedd wedi cerdded y daith o Lindisfarne i Iona, ar bererindod. Nid oeddent wedi archebu, nid oedd ganddynt arian ac felly ni allent dalu. Daethant mewn ymddiriedaeth y byddent yn dod o hyd i groeso a gwely.
Anfonodd Iesu ei ddisgyblion allan mewn parau gyda’r cyfarwyddyd hwn: ‘a gorchmynnodd iddynt beidio â chymryd dim ar gyfer y daith ond ffon yn unig; dim bara, dim cod, dim pres yn eu gwregys; sandalau am eu traed, ond heb wisgo ail grys. Ac meddai wrthynt, “Lle bynnag yr ewch i mewn i dŷ, arhoswch yno nes y byddwch yn ymadael â’r ardal. Ac os bydd unrhyw le yn gwrthod eich derbyn, a phobl yn gwrthod gwrando arnoch, ewch allan oddi yno ac ysgydwch ymaith y llwch fydd dan eich traed, yn rhybudd iddynt.” (Marc 6 8-11)
Jesuit novices oedd ein hymwelwyr. Yn yr un modd fe’u hanfonwyd ar eu ffordd gyda dim ond hanfodion, gan gynnwys mapiau wedi’u llungopïo o’r llwybr, ond dim ffôn a dim arian. Roeddent i ofyn am eu cadw wrth iddynt fynd, gan egluro eu bod yn bererinion (ond heb ddatgan mai Jesuit novices oeddent). Yn wyneb Covid 19, caniatawyd iddynt fynd â phabell, ond roedd hynny’n eithriad i’r protocol arferol!
Roeddent yn bwyta oherwydd bod pobl yn hael. Roeddent yn gallu talu am y croesfannau fferi i Mull ac Iona oherwydd caredigrwydd eraill. Bendith oedd bod yn dyst i ostyngeiddrwydd a bregusrwydd y disgyblion ffyddlon ifanc hyn.
Dduw pan fyddaf yn teimlo’n fregus, helpa fi i ymddiried yn dy drugaredd a’th garedigrwydd o eraill. Amen