ROMCOM! NO.
Cyn darllen yr isod, gwyliwch https://www.youtube.com/watch?v=PPjEY3F8gHs a / neu darllen Llyfr Ruth.
Rwy’n hoff iawn o ffilmiau! Rwy’n gwerthfawrogi ffilmiau wedi eu selio ar hanes wir, sy’n gorffen yn gadarnhaol, megis Freedom Writers neu Remember the Titans! Coeliwch neu beidio, dwi’n hoff iawn o ‘romcoms’ (romantic comedies) yn arbennig Leap Year!
Stori serch yw’r hanes yn Llyfr Ruth ond yn wahanol i’r romcoms, mae na wersi pwysig yn hanes Ruth, rhai sydd yn berthnasol iawn i ni heddi.
Er gwaethaf camgymeriad Elimelech, yn symud ei deulu i Moab o Fethlehem, mae Duw yn dwyn bendith o’r cyfan. Mae’r Beibl drwyddo draw yn llawn o gymeriadau sy’n baglu ac yn gwneud smonach o bethau. Eto, yn ei drugaredd, mae Duw yn defnyddio’r sefyllfaoedd er bendith.
Mae Duw bob amser ar y blaen! Cyn i Naiomi a Ruth gyrraedd yn ôl i Fethlehem, roedd yr Arglwydd yno o’u blaen ac yn eu disgwyl. Roedd hi’n ddechrau’r cynhaeaf barlys a llaw Duw eisoes ar galon Boas! Byddai Duw yn bendithio pob cam yn yr hanes.
Mae Duw gyda ni hefyd, beth bynnag bo’n sefyllfa. Ni fydd yr Arglwydd yn ein gadael fyth na’n cefnu arnom, oherwydd yr ydym yn gannwyll ei lygad!
Roedd Boas yn fodlon talu am yr hyn y byddai Ruth yn ei golli. Boas yw’r un sy’n sicrhau etifeddiaeth iddi. Oherwydd ein pechod rydym ni hefyd wedi colli’n hetifeddiaeth ond mae marwolaeth Iesu ar y groes, wedi ei ennill yn ôl i ni. Mae’r Iesu…
…wedi canslo’r ddogfen oedd yn dweud faint oedden ni mewn dyled. Cymerodd e’i hun y ddogfen honno a’i hoelio ar y groes.
Colosiaid 2:14 (Beibl.net)
Hwn yw’r Oen, ar ben Calfaria
Aeth i’r lladdfa yn ein lle,
Swm ein dyled fawr a dalodd
Ac fe groesodd filiau’r ne’;
Trwy ei waed, inni caed
Bythol heddwch a rhyddhad.
(Dafydd Jones 1711 – 77)
Mae’r llyfr yn gorffen yn hapus efo priodas a genedigaeth Obed. Onid yw Duw yn medru dwyn prydferthwch o gamgymeriad? Er mai Moabes oedd Ruth, gwyddom ei bod yn llinach Iesu Grist!
…Salmon oedd tad Boas (a Rahab oedd ei fam), Boas oedd tad Obed (a Ruth oedd ei fam), Obed oedd tad Jesse, a Jesse oedd tad y Brenin Dafydd. Mathew 1: 5 a 6 (Beibl.net):
Gweddi:
Does neb yn debyg i ti, Arglwydd! Rwyt ti’n gweld popeth, yn gwybod y cyfan ac yn gallu cyflawni pob dim. Er cymaint dy fawredd, rwyt ti’n agos atom a dy ofal amdanom yn fawr. Rwyt ti hyd yn oed wedi cyfrif gwallt ein pen!
Rhaid i ni gydnabod eich pechodau. Rydym wedi meddwl, gwneud a dweud pethau na ddylem. Mae na bethau y dylem fod wedi eu gwneud a dweud na wnaethom drafferthu eu cyflawni. Nid ydym yn haeddu dim llai na dy wrthodiad a’th farn.
OND yn dy ras ac yn dy drugaredd, rwyt ti wedi trefnu dihangfa i ni! Fel Boas gynt yn prynu’r etifeddiaeth yn ôl i Ruth, mae dy annwyl Fab,wedi talu’n dyledion ni i gyd a phrynu’n hetifeddiaeth ninnau yn ôl i ni. Fe gawn ni bellach hawlio yr hyn a gollwyd gennym!
Dyma gyfaill haedda ‘i garu,
a’i glodfori’n fwy nag un:
prynu’n bywyd, talu’n dyled,
a’n glanhau â’i waed ei hun:
frodyr, dewch, llawenhewch,
diolchwch iddo, byth na thewch!
Yr unig beth fedrwn ni ddweud Arglwydd yw diolch!
Diolchgarwch lanwo ’nghalon i
I’r Hwn a ddug fy nghur,
Fe blymiodd ddyfnder du fy ngwarth
Ces fywyd newydd, gwir;
Do, chwalodd felltith ’mhechod cas
A’m gwisgo yn Ei wawl,
‘Sgrifennodd ddeddf cyfiawnder pur
Yn rymus ar fy mron.
Amen