O holl storiau niferus y Beibl, un o’r ffefrynnau yw’r Swper yn Emaus. Gan fod nifer o artistiaid mawrion wedi gwneud y stori yn destun eu darluniau, felly mae Luc 24:13 – 35 wedi bod yn thema bron yn flynyddol yn fy mhregethau nos Sul y Pasg ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Yn union fel mewn celf mae darluniau amrywiol o’r stori, felly nid yw fy mhregethau wedi cael eu hailadrodd, ac nid oedd pregeth y Pasg hwn yn Ewloe Green yn eithriad.

Mae’r darlun gan yr arlunydd Sbaenaidd, Diego Velazquez (1599 – 1660) sy’n hongian yn Oriel Genedlaethol Iwerddon ychydig yn anarferol gan ei fod yn rhoi amlygrwydd i forwyn Moorish yn ei bortread o’r tŷ yn Emaus, ac os ydych chi’n gyfarwydd â’r Ystafell Fwyta yng Ngholeg Trefeca, nid yw’r olygfa yn y darlun yn annhebyg i’r dyluniad yno.

Yn union fel yn yr ystafell honno yn Emaus lle torrodd Iesu fara adeg swper a datguddio i Cleopas a’i gydymaith mai Ef oedd y Crist Atgyfodedig, mae’n rhaid bod cymaint o sgyrsiau arwyddocaol a goleuedig wedi digwydd dros amser bwyd yn Nhrefeca.

Efallai fod y darlun yn ein hatgoffa’n dyner mor bwysig y gallai rhai o giniawyr Trefeca fod, ond hefyd nad yw’r rhai sy’n gweini wrth baratoi’r bwyd yn ddibwys ac y maent yn haeddu sylw. Agwedd gofiadwy o gymeriad y diweddar Barchg John Stott oedd pan fyddai’n mynychu cynhadledd, y byddai’n oedi i gydnabod gyda gwir werthfawrogiad a diddordeb y rhai a’i wasanaethodd mewn ffyrdd distadl.

Yn ei ddarlun Kitchen Maid with the Supper at Emmaus mae morwyn Moorish yn cael ei dangos wrth ei gwaith yn y gegin. Wrth yr agoriad gwelir hi’n gwrando wrth i Iesu a’i ddau ffrind siarad yn y cefndir wrth y bwrdd yn yr ystafell arall.

Efallai wrth cipglywed y sgwrs ei bod wedi ei chalonogi gan y sylweddoliad fod Iesu yn Fyw, cymaint ag oedd y ddau a gafodd eu hysgogi i olrhain eu camau i Jerwsalem i rannu’r Newyddion Da gyda’r disgyblion.

Ysgrifennodd y bardd Cymreig, George Herbert (1593 – 1633) unwaith ‘All may of Thee partake’, ac fel a ddarganfu y ddau yn eu cartref yn Emaus, y mae’n wir i Grist offrymu ei Hun dros holl bechodau’r byd, a bod pawb sy’n gwrando arno’n credo, yn darganfod eu camau yn ysgafnach a llawenydd yn eu calonnau.

Gweddi: 

Arglwydd atgyfodedig, wrth i Ti nesau at y ddau ar ffordd Emaus

a chynhesu eu calonnau gyda’th ymdeimlad Di dy hun, gweddïwn y bydd llewyrch gwirionedd y Pasg sydd wedi gwawrio arnom ac wedi cynhesu ein calonnau oer y dyddiau diwethaf hyn, yn parhau i’n hysgogi i’th garu, i’th ddilyn a’th wasanaethu Di.

Wrth i’r wawr godi mewn i ddiwrnod newydd, cerdda ochr yn ochr â ni, ac wrth i bob dydd fynd heibio rydyn ni’n gweddïo ar i Ti ddod i drigo gyda ni, er mwyn Dy Enw, Amen.

Teach me, my God and King 

In all things Thee to see 

And what I do in anything,  

To do it as for Thee 

 (Geo. Herbert) 

(Pennawd y llun) Diego Velazquez, Kitchen Maid with the supper at Emmaus, c. 1599-60, (Olew ar Gynfas), Oriel Genedlaethol Iwerddon.