Dyma Salem, Fforest Coalpit, tua phedair milltir i’r gogledd o’r Fenni, yr ochr arall i Ben-y-Fai. Symudais i Fforest pan oeddwn yn ddeg oed a mynychais yr Ysgol Sul a’r Gwasanaethau yno, gan fynychu Whitefield yn y Fenni yn ddiweddarach. Mae gennyf lawer o atgofion am y lle o’r amser hwnnw. Cofiaf John Tudor yn dod i bregethu mewn Gwasanaeth Diolchgarwch, bu bron iddo fwrw drosodd un o’r lampau olew ar ochr y pulpud. Un o’r pethau sy’n aros yn fy meddwl yw ei ddarlun o iachawdwriaeth fel anrheg am ddim nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth i’w ennill, mae’n rhad ac am ddim fel y tegan mewn blwch Rice Krispies y mae’n rhaid i chi ei gymryd. O’r Fforest y cefais fy nghyswllt cyntaf â Threfeca yn y chwedegau hwyr. Byddem yn mynd am y penwythnos; roedd yn wahanol iawn bryd hynny.
Mae gan Fforest gysylltiad hir â Threfeca, y lôn oedd y ffordd a oedd yn arwain i Gwm-iou ar un adeg, a hoffwn feddwl i Howell Harris ddefnyddio’r llwybr hwn wrth iddo deithio. Dechreuwyd yr achos gan Howell Harris, a chyfarfyddasant mewn tŷ gerllaw.
Dyma ddyfyniad o’r Treasury ym Medi 1883 sy’n dweud mwy wrthym am Salem
“Early, very early, in the history of Calvinistic Methodism, Monthly Meetings were held at Cwmyoy and Forest Coalpit. Howell Harris paid many visits to these places. There lived, however, at the Forest, during this period, an extraordinary good man named William Jones. For sincerity and an earnest desire to extend the Master’s kingdom the last century did not possess a better man. He faithfully served the evil one till he was 21 years old, when his heart underwent a change. His love for the souls of his neighbours was such that he went expressly to Trefeca, and had an interview with Lady Huntington, and urged on her ladyship the paramount importance of sending her students to the neighbourhood of the Forest to preach the gospel to his ungodly neighbours. “How came you,” asked her ladyship, “to know the Lord?” ” It was the Lord that found me,” replied William Jones. Her ladyship was so pleased that her students paid periodical visits to the Forest. There was a building known as ” the playhouse ” in the locality, and the gentry from Abergavenny and around would come in carriages on the Lord’s Day and indulge in all manner of games and ungodliness. It is recorded that this was like fire on the skin to William Jones, who ultimately purchased the playhouse, and thus put an end to such wickedness. He was born in 1738, a few years after the conversion of Howell Harris and was undoubtedly on intimate terms with that man of God. He travelled with Harris on many occasions, and very likely stood by him when assailed by the mob. He faithfully attended the Monthly Meetings, and the success of the gospel lay very near his heart. He was eminent for his piety, and died as he lived, near to his Master. He did not forget the carrying on of the Cause after his death, for he left as an endowment for the chapel the place where he lived”
Credaf mai ef neu berthynas a roddodd y tir i’r eglwys gael ei hadeiladu yn 1816.
Nis gallasai Howell Harris wneud y gwaith a wnaeth heb gymorth gwŷr fel William Jones yr oedd ei fywyd a’i dyst yn brawf o ras rhad Duw a bregethodd ef a Howell Harris. Gweddiwn ar i’r Arglwydd godi eraill fel William Jones heddiw.
Gweddi.
Arglwydd wyt ti’n Dduw mawr a gogoneddus sy’n gwneud rhyfeddodau ym mywydau dynion a merched. Diolch i ti am esiampl a thystiolaeth dy pobl yn y gorffennol. Edrychwn yn ôl ar y gwaith y mae dy law wedi’i wneud yn y gorffennol. Diolchwn i ti am y rhai a bregethodd dy air er gwaethaf gwrthwynebiad ac a fu’n ffyddlon i ti.
Diolchwn i ti nad yw dy efengyl yn newid a bod y rhodd rhad o iachawdwriaeth trwy waed cymodlon ein Harglwydd Iesu yn dal ar gael am ddim heddiw. Y byddi’n cyfodi heddiw y rhai sy’n dy adnabod ac yn dy garu i fod yn feiddgar wrth gyhoeddi efengyl fawr ein Duw gogoneddus yn union fel y gwnaeth ein hynafiaid.
Arglwydd, yn ôl dy holl weithredoedd cyfiawn, tro ymaith dy ddicter a’th ddigofaint oddi wrthym. Ein pechodau ni a chamweddau ein hynafiaid sydd wedi gwneud dy efengyl di a’th bobl yn destun dirmyg i bawb o’n cwmpas.
Yn awr, ein Duw, gwrando ar weddiau a deisyfiadau dy weision. Er dy fwyn di, Arglwydd, edrych gyda ffafr ar dy eglwys. Clyw, ein Duw; agor dy lygaid a gwêl anrhaith y bobl sy’n dwyn dy Enw. Nid oherwydd ein bod ni’n gyfiawn yr ydym yn gofyn, ond oherwydd dy fawr drugaredd. Arglwydd, gwranda! Arglwydd, maddau! Arglwydd, clyw a gweithreda! Er dy fwyn di, fy Nuw, nac oeda, oherwydd dy bobl sydd yn dwyn dy Enw. Amen