Dydd Llun

Oherwydd, i mi, Crist yw byw, ac elw yw marw. Ond os wyf i barhau i fyw yn y cnawd, bydd hynny’n golygu y caf ffrwyth o’m llafur. Eto, ni wn beth i’w ddewis.  Y mae’n gyfyng arnaf o’r ddeutu; y mae arnaf awydd ymadael a bod gyda Christ, gan fod hynny’n llawer iawn gwell.  Philipiaid 1: 21-23

Mae gan bob un ohonom awydd neu hiraeth am rywbeth neu efallai rywun. Yn aml, mae gennym awydd i fynd yn ôl i’r ffordd yr oedd pethau, yn ôl i amseroedd pan oedd ein capeli yn orlawn, pan oeddem yn dyheu am glywed gair Duw. Mae yna awydd a hiraeth dwfn am y cyfarwydd, am sut y dylai bywyd fod mewn gwirionedd. Awydd sy’n ennyn emosiynau dwfn yn ein calonnau bob tro rydyn ni’n meddwl amdano.

Efallai y byddwn yn darllen am yr amseroedd rhyfeddol o fendith a fwynhaodd ein harwyr, Howel Harris neu John Pugh; pan ddaeth llawer i adnabod Crist fel eu Gwaredwr a hiraethu y gallem fod yno.

Yn y Beibl rydym yn dod o hyd i hiraeth neu awydd tebyg ond i beidio â mynd yn ôl at pethau, yr ‘hen ddyddiau da’ ond i fynd ymlaen i le a baratowyd ar ein cyfer gan yr Arglwydd Iesu. Yr unig le a all fodloni ein dymuniad. Mae’r adnodau hyn yn dweud wrthym rywbeth o wir ddymuniadau Paul, mae fel hiraeth i’r nefoedd, i ymgymryd â’i wir ddinasyddiaeth. Mae’n le y mae’n hiraethu am wybod beth sy’n aros amdano yno. Nid cymaint yw’r lle â’r person sydd yno, yr Arglwydd Iesu Grist.

Beth ydych chi’n ei ddymuno, mynd yn ôl i’r gorffennol a byw mewn atgofion neu edrych ymlaen at yr hyn mae Duw wedi’i addo i’r rhai sy’n ei garu, ‘y gobaith sy’n ymhlyg yn ei alwad … cyfoeth y gogoniant sydd ar gael yn yr etifeddiaeth y mae’n ei rhoi i chwi ymhlith y saint’.  Effesiaid 1:18

Dydd Mawrth

Rydym yn edrych ar y syniad o hiraeth neu ddyhead, yn enwedig hiraeth am y nefoedd. Mae’r salmydd yn aml yn mynegi ei ddymuniadau, ei hiraeth neu ei ddyheadau yn enwedig pan fydd dan bwysau.

Wrth ichi ddarllen y Salm hwn, ceisiwch ganolbwyntio ar yr hyn y mae’r salmydd yn dyheu amdano.

Ble mae’r salmydd yn ei gael ei hun? Beth achosodd hynny, ac ydyn ni’n cael ein hunain mewn sefyllfaoedd tebyg?

Am beth mae’n hiraethu? Pa mor gryf ydych chi’n meddwl yw ei hiraeth? Gwnewch restr o’r pethau y mae’n dyheu amdanyn nhw, cymharwch eich hiraeth â rhai’r salmydd. Am beth ydych chi’n wirioneddol hiraethu?

Salm 42

I’r Cyfarwyddwr: Mascîl. I feibion Cora.

1  Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog,
felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw.
2  Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw;
pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron?
3  Bu fy nagrau’n fwyd imi
ddydd a nos,
pan ofynnent imi drwy’r dydd,
“Ple mae dy Dduw?”
4  Tywalltaf fy enaid mewn gofid
wrth gofio hyn —
fel yr awn gyda thyrfa’r mawrion i dŷ Dduw
yng nghanol banllefau a moliant,
torf yn cadw gŵyl.
5  Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,
ac mor gythryblus o’m mewn!
Disgwyliaf wrth Dduw;
oherwydd eto moliannaf ef,
fy Ngwaredydd a’m Duw.
6  Y mae fy enaid yn ddarostyngedig ynof;
am hynny, meddyliaf amdanat ti
o dir yr Iorddonen
a Hermon ac o Fynydd Misar.
7  Geilw dyfnder ar ddyfnder
yn sŵn dy raeadrau;
y mae dy fôr a’th donnau
wedi llifo trosof.
8  Liw dydd y mae’r ARGLWYDD yn gorchymyn ei ffyddlondeb,
a liw nos y mae ei gân gyda mi,
gweddi ar Dduw fy mywyd.
9  Dywedaf wrth Dduw, fy nghraig,
“Pam yr anghofiaist fi?
Pam y rhodiaf mewn galar,
wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?”
10  Fel pe’n dryllio fy esgyrn,
y mae fy ngelynion yn fy ngwawdio,
ac yn dweud wrthyf trwy’r dydd,
“Ple mae dy Dduw?”
11  Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,
ac mor gythryblus o’m mewn!
Disgwyliaf wrth Dduw;
oherwydd eto moliannaf ef,
fy Ngwaredydd a’m Duw.

Dydd Mercher

Emyn

Mae’n ymddangos bod yr emyn yma gan William Williams yn mynegi hiraeth am bethau na all y byd hwn eu rhoi.

Dear Jesus, come, my soul doth groan
For nought but for Thyself alone,
Thou art the pearl of price;
For Thee I’d part with all below,
And every hardship undergo,
Beneath the vaulted skies.

Thy presence can without delay,
Drive all my numerous cares away,
As chaff before the wind;
Compose my thoughts to adore and love
Thee, as an object far above,
To Thee alone inclined.

Release me from the heavy chain,
Guilt, sin and shame, which still remain
To bind me hand and foot;
O, glorious Conqueror, enter in,
Cast out my foes, destroy my sin,
Both branch and spreading root.

Give me that knowledge pure, divine,
To know and feel that Thou art mine,
And Thee my portion call;
That doubts and fears may flee away,
And faith unfeigned win the day,
And triumph over all.

Dydd Iau

Heddiw trown at weddi gan Awstin o Hippo 354-430AD

Dim Ond Ti – Awstin Sant

Arglwydd Iesu, boed imi nabod fy hun a dy nabod Di,
Ac i ddyheu am ddim ond Ti.
Boed imi anghofio fy hun a dy garu Di.
Boed imi wneud popeth er dy fwyn Di.
Boed imi ymostwng fy hun a dy ddyrchafu Di.
Boed imi feddwl am ddim ond Ti.
Boed imi farw i’r hunan a byw i Ti.
Boed imi dderbyn beth bynnag ddaw fel yn dod gen Ti.
Boed imi ymwrthod a fi fy hun a dy ddilyn Di,
a dymuno dy ddilyn Di bob amser.
Boed imi godi f’adenydd, ymadael â fi fy hun a llochesu ynot Ti,
imi haeddu fy niogelu gen Ti.
Boed imi ofni amdanaf fy hun, boed imi d’ofni Di,
a boed imi fod ymysg y rhai sy’n ddewis i Ti.
Boed imi amau fy hun a rhoi f’ymddiriedaeth ynot Ti.
Boed imi fodloni ufuddhau er dy fwyn Di.
Boed imi ddal fy ngafael mewn dim heblaw amdanat Ti,
a boed imi fod yn dlawd o dy herwydd Di.
Edrych arnaf fel y gallaf dy garu Di.
Galw arnaf fel y gallaf dy weld Di,
Ac yn dragwyddol lawenhau ynot Ti.

Dydd Gwener

Dyn a ddaeth â’r efengyl i Gymru oedd Howell Harris. Cafodd ei droedigaeth yn 1735. Yn gynnar yn y 1770au dechreuodd ei iechyd ddirywio, ond wrth i’w ddyn allanol farw, adnewyddwyd ei ddyn mewnol o ddydd i ddydd (2 Cor. 4:16). Parhaodd ei ffydd yn fywiog hyd y diwedd. Yn ystod ei salwch olaf ysgrifennodd y geiriau hyn:

‘Rhaid i mi gael y Gwaredwr, oherwydd Ef yw fy mhopeth. Y cyfan sydd gan eraill, yn y byd, mewn crefydd ac ynddynt eu hunain, sydd gennyf ynddo Ef. Pleser, cyfoeth, diogelwch, anrhydedd, bywyd, cyfiawnder, sancteiddrwydd, doethineb, gwynfyd, llawenydd ac hapusrwydd; a thrwy yr un rheol fod pob un o’r rhain yn annwyl i eraill, rhaid iddo Ef fod yn annwyl i mi. Ac fel plentyn yn hiraethu am ei dad; teithiwr, am ddiwedd ei daith; gweithiwr, i orffen ei waith; yn garcharor, am ei ryddid; etifeddwr, am feddiant llawn ei ystâd; felly, yn hyn oll, ni allaf helpu hiraethu i fynd adref. ’

A mynd adref a wnaeth, yn drigain oed ar Orffennaf 21, 1773, gan dystio trwy ei holl ddioddefiadau olaf ei gariad a’i bryder mawr am ei braidd a’i hyder a’i ymddiriedaeth fawr yn y Duw grasol a oedd wedi ei achub bron i ddeugain mlynedd yng nghynt.