Hen afon ddofn Iorddonen.
Mae 960 o emynau yng Nghaneuon Ffydd pob un ohonynt yn deilwng o ddweud gair amdanynt. Fydd yn od o beth i rai felly, fy mod wedi dewis son am emyn sydd heb ei gynnwys yng Nghaneuon Ffydd.
Oes gennych atgofion o’ch neiniau a’ch teidiau, neu un o’r ddau, efallai?
Mae gen i atgofion melys o’n nhad-cu (Tad fy nhad). Roedd y ddau ohonom yn agos iawn ac wrth ein bodd yng nghwmni’n gilydd.
Collodd ei gymar yn fuan wedi iddo ymddeol, a chryfhâi wnaeth y berthynas rhyngom.
Pan fyddai’n oriau gwaith yn caniatáu, byddai’r ddau ohonom yn mynychu oedfaon y bore yng nghapel Salem (Capel y Cwm) Bonymaen, Abertawe.
Wedi swper ar y Sul, byddai’r ddau ohonom yn eistedd ar ei aelwyd yn dodi’r byd yn ei le a minnau’n gwrando’n astud ar ei storiâu. Adroddir yr emyn a ganlyn ganddo’n aml.
Hen afon yr Iorddonen!/ Rhaid imi groesi hon;/
Wrth feddwl am ei dyfnder,/ Mae arswyd dan fy mron;
Ond im’ gael ‘nabod Iesu,/ A’m carodd cyn fy mod,/
Af trwy-ddi’n ddigon tawel,/ A’r gwaelod dan fy nhroed.
Paham yr ofna’i’r afon,/ Wrth weled grym y dŵr?
Mae’r gwaelod wedi ei g’ledu,/ A’r Iesu’n flaenaf Gŵr!
Yr afon goch lifeiriol/ A darddodd dan ei fron, –
Mae miloedd yn myn’d adref/ Yng ngrym yr afon llon.
Cyhoeddwyd am y tro cyntaf yn y Llawlyfr Moliant (1880), cyhoeddiad o eiddo’r Bedyddwyr.
Gan mai Methodistiaid Calfinaidd oedd fy nheulu i gyd, mae’n dal yn ddirgelwch i mi sut a pham bu’r emyn hon mor annwyl iddo er rwy’n ddiolchgar iddo am ei rhannu gyda mi gan fy mod i’n gallu ei rhannu a chwi.
Ni chyhoeddwyd yr emyn yn Llyfr Emynau’r Methodistiaid a Wesleaid (1929) chwaith er cyhoeddwyd y pennill tebyg a ganlyn yng Nghasgliad o Emynau Wesleaidd ym 1844.
Er dyfned yw’r Iorddonen,/ Rhaid imi groesi hon;
Wrth feddwl am ei thonau,/ Mae ofnau dan fy mron:
Ond im’ gael nabod Iesu,/ A’m carodd cyn fy mod,
Af trwyddi’n ddigon tawel,/ A’r gwaelod dan fy nhroed!
Gwêl yr awdur, croesi y tu hwnt i’r llen fel croesi’r afon Iorddonen ac mae’r syniad yn ei lenwi a braw.
Rhesymu a wna, fyddai’r daith yn rhwyddach o lawer pe bai’n cael adnabod yr Arglwydd Iesu, a’i gariad di-baid, di-ffael.
Mae’n gysur i’r awdur, gredu nad oes angen i gredinwyr ofni’r afon a’i rym bellach. Trwy aberth Iesu ar y Groes, mae’r ffordd wedi’i baratoi, a’r daith i gyfarfod a’r cwmwl anweledig o dystion yn rhwyddach o lawer.