Mae’r llun uchod yn fy atgoffa o Wasanaeth Carolau Nadolig arbennig yn Nhrefeca. 1987 oedd hi, ac roedd y Capel Bach, fel y gwyddom amdani, yn cael ei gwneud allan o’r hen stabl. Roedd bylchau yn parhau i fod ar gyfer y drysau a’r ffenestri, a llawr noeth. Gwahoddodd Ronwy Rogers (Warden ar y pryd) ni i Wasanaeth Carolau yn y tu mewn oer, noeth, gyda dim ond golau cannwyll a llusernau. Mae Ronwy ar y dde, ac efallai y bydd rhai ohonoch yn gweld y diweddar Mrs Olwen Davies (gwraig Trefor Davies, Pennaeth olaf y coleg), yn ail i’r chwith. Gwahoddwyd staff Trefeca, a’r adeiladwyr a’r pensaer a oedd yn trosi’r adeilad hefyd. Roedd pob un ohonom wedi ein lapio yn erbyn yr oerfel yn yr hyn a fu unwaith yn stabl, gyda’r sêr i’w gweld trwy’r to sy’n dal yn rhannol agored. Hwn oedd y lle mwyaf dilys i ddathlu genedigaeth ein Gwaredwr.

I lawer o bobl y Nadolig hwn, byddai hyd yn oed y lloches honno’n well na’r hyn a fydd ganddynt – felly gadewch inni eu cofio yn ein gweddïau.

Arglwydd Dduw, drwy dy Fab Iesu a ddaeth i’r byd hwn trwy stabl syml, rydym yn dy foli di, dy fod wedi gwneud dy hun mor isel fel y gallai Bugeiliaid gostyngedig hyd yn oed edrych ar lefel llygad i wyneb Duw.

Gweddïwn, y byddi yn awr yn mynd i mewn i galonnau a meddyliau

  • y rhai nad oes ganddynt gartref, dim cysgod rhag gwyntoedd creulon y gaeaf yn Afghanistan, neu’n byw mewn gwersylloedd ffoaduriaid ledled Ewrop
  • y rhai sydd wedi colli eu cartrefi a’u heglwysi eleni gan y corwyntoedd a rwygodd trwy Kentucky
  • y rhai sydd â chartref, ond mae’n le o unigrwydd, a phryder, lle nad ydynt yn gweld neb
  • y rhai sydd, fel y bugeiliaid y noson honno, yn parhau i weithio, er mwyn gofalu am gleifion neu bobl fregus yn ein hysbytai a’n cartrefi gofal 

Arglwydd Iesu gweddïwn y byddi’n dod o hyd i ryw ffordd i fynd mewn i bob un rydyn ni’n gweddïo drosto, gan ddod â’th oleuni, dy fywyd a’th obaith y Nadolig hwn.

Cyfarchion Nadolig i chi i gyd o Trefeca!