Y tu ôl i’r mwyar duon hyn, yn y gornel gudd hon o Trefeca, (os ydych chi’n gwybod ble i edrych) mae ffynnon hynafol i’r pentref. Nid yw’n cael ei ddefnyddio mwyach.

Mae ffynhonnau hynafol yn nodi llwybrau Pererinion Cymru, o Ffynnon y Santes Non y tu allan i Dyddewi i Ffynnon Sant Beuno yng Nghlynnog Fawr. Cododd llawer o drefi Cymru o amgylch Ffynhonnau, Llandrindod Wells, Builth Wells, Llanwrtyd Wells (er gwell peidio dadbibio y ffynnon sylffwrog a enwyd olaf!) Ffynhonnau Beiblaidd oedd ffynhonnell anghydfodau pobl Israel, er enghraifft dadl Isaac â herwyr Gerar (Genesis 26); ond yn fwy cadarnhaol, daeth cyfarfyddiad â Iesu wrth ffynnon Jacob yn Samaria, â bywyd newydd i fenyw a oedd wedi dod i dynnu dŵr. (Ioan 4)

Daw fy hoff gyfeiriad o emyn Diolchgarwch Eseia Mewn llawenydd fe dynnwch ddŵr o ffynhonnau iachawdwriaeth” (Eseia 12 ad. 3). Y “ffynnon” dyfnaf, cyfoethocaf a’r iachaf i yfed ohoni yw oddi wrth Iesu ei hun – fel y dywedodd Iesu wrth y fenyw o Samaria, “ond pwy bynnag sy’n yfed o’r dŵr a roddaf fi iddo, ni bydd arno syched byth.” (Ioan 4 ad. 14) Am addewid! Mae’n ffynnon na all byth redeg yn sych, na ellir byth ei dyfu drosodd, na’i chau, byth yn mynd yn sur; ond mae Iesu’n parhau i arllwys ei ddŵr sy’n rhoi bywyd i bawb a fydd yn dod ato a’i dderbyn.

Gweddi

Arglwydd Iesu Grist, y Dŵr Byw,
helpa ni i dynnu’n ddwfn o ffynhonnau iachawdwriaeth.
Adnewydda ni, pan fyddwn wedi blino,
golch ni, pan mae pechod a chamwedd yn siltio ein bywydau
oera ni â dŵr iachâd pan fyddwn yn dwymyn neu’n gythryblus.

Cynorthwya dy Eglwys, dy bobl,
i ail-ddarganfod yr hen ffynhonnau y bu ein cyndeidiau yn yfed ohonynt
ffynhonnau gweddi ffyddlon,
a’r ffynhonnau sy’n agor pan rydym ni’n wir astudio’th air.

Ac i Trefeca ei hun, fod y “ffynnon” hwnnw
y man cyfarfod hwnnw, lle, fel y wraig o Samaria,
pobloedd o bob hil, pob ffydd a dim ffydd
yn cyfarfod â thi Arglwydd Iesu a dod o hyd i fywyd newydd. Amen