Ar ôl seibiant o 2 flynedd oherwydd y pandemig, cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod wythnos gyntaf mis Awst. Daeth degau o filoedd o bobl i Dregaron, ac yn ôl yr arfer, un o bebyll mwyaf yr ŵyl oedd pabell yr Eglwysi Ynghyd (Cytûn). Treuliodd cynrychiolwyr o’r Cyfundeb amser yn y babell yn cyfarfod â hen ffrindiau ac yn gwneud ffrindiau newydd. Gwelwyd y lletygarwch cynnes arferol a geir yn y babell a miloedd o baneidiau o de a phice ar y maen yn cael eu mwynhau dros gymdeithas gynnes a llawen.
Wrth ymyl y babell roedd gardd fyfyriol Cymdeithas y Beibl yn seiliedig ar Salm 23, yr oedd fersiwn ohoni wedi ymddangos yn sioe flodau Chelsea. Gwahoddwyd Eisteddfodwyr i eistedd yn yr ardd a myfyrio ar Salm 23, beth y mae’n ei ddweud wrthym, a sut mae hyn yn gwneud i ni deimlo.
Meddyliwch am bopeth sydd ei angen arnoch, a dychmygwch sut deimlad fyddai cael yr holl anghenion hynny wedi’u diwallu. Dychmygwch ddilyn bugail sy’n gofalu am yr holl anghenion hynny.
Meddyliwch am dywyllwch llwyr, y mae’r hyn rydych chi’n ei ofni fwyaf oddi mewn iddo. Dychmygwch beidio â gorfod ofni dim o hyn oherwydd mae gennym fugail y gallwn ymddiried yn llwyr ynddo.
Meddyliwch am fyw eich bywydau cyfan mewn heddwch perffaith gan wybod bod ei gariad yn mynd o’n blaen.
O Dduw ein Tad.
Yr Arglwydd yw fy Mugail, ni bydd eisiau arnaf. Diolch am yr addewid hyfryd hwn o ddarparu popeth posibl sy’n ofynnol gan y rhai sy’n dy ddilyn.
Diolch am fod yn dywyswr cyson yn ein bywydau, gan ddangos y llwybr gorau i ni i gyd, gan ein sicrhau, os dilynwn y llwybr hwnnw, y bydd yn rhoi’r pethau gorau i ni i gyd.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym mewn gwirionedd wedi bod drwy’r dyffryn tywyll du, lle’r ydym wedi wynebu unigrwydd, anobaith, ofn a bygythiad. Roeddem ar wahân i anwyliaid, yn gyfyngedig yn ein cartrefi, yn methu cwrdd â ffrindiau na theulu. Wynebwyd colledion mawr ar eu pennau eu hunain, heb gefnogaeth ein cymunedau. Diolch am ein harwain trwy’r amseroedd tywyll hyn.
Yr wyt yn paratoi bwrdd ger ein bron, a diolchwn i ti am ddarparu popeth sydd ei angen arnom. Diolchwn i ti am yr holl weithwyr allweddol a roddodd eu hunain mewn perygl i’n cadw ni i gyd yn ddiogel yn ystod y cyfnod anodd hwn. Diolchwn i ti am wyddoniaeth, ac am ddarparu brechlyn fel nad yw effeithiau ofnadwy’r firws mor ddifrifol ac y gallwn fynd yn ôl i’n bywydau.
Diolchwn i ti, wrth ddod allan o’r pandemig, ein bod yn ddiogel gan wybod y bydd dy ddaioni a’th gariad yn ein dilyn holl ddyddiau ein bywydau.
Yn enw Iesu.
Amen
Gallwch ddysgu mwy am yr ardd gan Gymdeithas y Beibl wrth ddilyn y ddolen isod: