Pan orfodwyd adeiladau ein capeli i gau yn ystod y pandemig, ac fel llawer o gynulleidfaoedd eraill, cyfarfu Cylch Llundain ac addoli dros Zoom. Mae yna anfanteision, wrth gwrs, mewn cyfarfod yn rhithiol, ond un o’r manteision enfawr oedd nad oedd daearyddiaeth bellach yn rhwystr i addoli gyda’i gilydd. Roedd hen ffrindiau o Efrog Newydd, Canada, Caerdydd a Thregaron yn ymuno â ni’n gyson. Mae gan gynulleidfaoedd Llundain gysylltiad cryf â Thregaron, gyda llawer o’r ardal, ac mae ganddyn nhw deulu yno o hyd. Bu aelodau gofalaeth Caron yn cymryd rhan yn ein gwasanaethau. Fe wnaethon nhw ymuno â ni hefyd ar gyfer ein cyfarfodydd Cymdeithas, ac fe wnaethon ni ymuno â nhw ar gyfer digwyddiadau cymdeithasol ‘Y Gang’. Pan gynhaliwyd yr Eisteddfod o’r diwedd yn Nhregaron ar ôl aros 2 flynedd, doedd hi ond yn edrych yn briodol i ni gael aduniad wyneb yn wyneb gyda’n cyd-addolwyr. Prynhawn Iau, cwrddon ni ym mhabell Cytun, a mwynhau’r lletygarwch yno cyn mynd gyda’n gilydd i Soar y Mynydd am wasanaeth Cymun o dan arweiniad y ddau Weinidog, y Parchg Richard Brunt a’r Parchg Carwyn Arthur, gydag aelodau’r ddwy ofalaeth yn cymryd rhan.
Duw Dad, diolchwn iti am bob cyfle i ddod ynghyd â’n cyd-Gristnogion i addoli dy Enw Sanctaidd. Gweddïwn dros ein brodyr a chwiorydd ledled y byd, ac er gwaethaf daearyddiaeth a gwahaniaethau mewn diwylliant, mae gennym Ti yn gyffredin. Anfonaist dy unig Fab i fyw yn ein plith, i farw er mwyn inni fwynhau’r bywyd tragwyddol a baratowyd ar ein cyfer. Anfonaist Ef dros bob un ohonom heb unrhyw ffafr na mantais a diolchwn i Ti ein bod yn rhan o deulu dy Eglwys. Teulu sy’n fwy nag unrhyw adeilad, yn fwy nag unrhyw hil neu wlad, ac er gwaethaf ein holl wahaniaethau, un sydd â Ti yn ben.
Amen