“Cofia dy Grëwr tra rwyt yn ifanc, cyn i’r dyddiau anodd gyrraedd a’r blynyddoedd ddod pan fyddi’n dweud, “Dw i’n cael dim pleser ynddyn nhw.”
Duw Dad.
Y mis hwn rydyn ni’n meddwl yn arbennig am bobl ifanc, yn enwedig y rhai sy’n aros am ganlyniadau arholiadau.
Gweddïwn dros yr unigolion sy’n poeni am gael y graddau sydd eu hangen arnynt i symud ymlaen i’r cam nesaf. Gweddïwn dros y rhai sy’n bryderus ac yn ansicr ynghylch eu dyfodol.
Helpa nhw i gofio geiriau Salm 139 sy’n dweud bod ‘hyd fy mywyd wedi ei drefnu, pob diwrnod wedi ei gofnodi yn dy lyfr, a hynny cyn i un fynd heibio!’.
Yn dilyn blwyddyn pan mae ein pobl ifanc wedi wynebu amseroedd digynsail, misoedd pan oedd yr ysgolion ar gau, dysgu gartref neu ar-lein, gweddïwn eu bod yn cael yr anogaeth a’r ysbrydoliaeth sydd eu hangen arnynt o’th Air Di. Diolch am y Beibl, adnodd y gallwn droi ato am arweiniad mewn unrhyw sefyllfa ac unrhyw amser yn ein bywydau.
Rydym yn diolch iti, beth bynnag yw’r ansicrwydd sydd o’n blaen, rwyt ti wedi gorchymyn inni fod yn gryf ac yn ddewr. I beidio bod ag ofn; na digalonni, am dy fod wedi addo bod gyda ni bob cam o’r ffordd. Diolch am fod yn dad mor gariadus a charedig.
Yn yr holl ansicrwydd sy’n ein hwynebu heddiw, diolch am y sicrwydd y fyddi di yn dangos y ffordd iawn i ni, os ydym yn ymddiried ynot ti yn llwyr, a ddim yn dibynnu ar ein syniadau ein hunain, a gwrando arnat ti bob amser. Rydym yn dy foli am mai ti yw’r Hollalluog a greodd y nefoedd a’r ddaear ac sydd yn dal yr amserau yn dy law, ac eto mor agos a chariadus nes dy fod yn gwrando ar bob gweddi unigol.
Diolchwn i ti am wrando ar holl weddïau ein pobl ifanc, ac rydym yn ymrwymo eu dyfodol i’th ddwylo cariadus a diogel di.
“Rho bopeth wnei di yn nwylo’r ARGLWYDD, a bydd dy gynlluniau’n llwyddo.”