Pob Peth

15  Hwn yw delw’r Duw anweledig, cyntafanedig yr holl greadigaeth16 oherwydd ynddo ef y crewyd pob peth yn y nefoedd ac ar y ddaear, pethau gweledig a phethau anweledig, gorseddau, arglwyddiaethau, tywysogaethau ac awdurdodau. Trwyddo ef ac er ei fwyn ef y mae pob peth wedi ei greu. 17 Y mae ef yn bod cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. 18 Ef hefyd yw pen y corff, sef yr eglwys. Ef yw’r dechrau, y cyntafanedig o blith y meirw, i fod ei hun yn gyntaf ym mhob peth. 19 Oherwydd gwelodd Duw yn dda i’w holl gyflawnder breswylio ynddo ef, 

20 a thrwyddo ef, ar ôl gwneud heddwch trwy ei waed ar y groes, i gymodi pob peth ag ef ei hun, y pethau sydd ar y ddaear a’r pethau sydd yn y nefoedd. (Colosiaid 1:15-20)

Pan oeddwn yn ifanc, roeddwn bob amser yn cael yr argraff nad oedd hi’n iawn i gael hoff rannau o’r Beibl. Wedi’r cyfan, “Gair Duw yw’r cyfan”, dywedwyd wrthyf! Wel, mae gen i fy hoff ddarnau ac mae Colosiaid 1:15-20 yn un ohonyn nhw. Mae’r gerdd yn dweud tri ‘pheth’ am ‘bob peth’ y bydysawd – hynny yw, y greadigaeth i gyd. Cawsant eu creu gan Grist (adn 16). Fe’u cynhelir gyda’i gilydd yng Nghrist (adn 17). Maent wedi eu cymodi yng Nghrist (adn 20). Dau bwynt:

  1. Rydym yn gysylltiedig â Christ ac yn gysylltiedig â’r holl greadigaeth. Mae ‘pob peth’ yn cydio yn yr Arglwydd Iesu Grist (adn 17). Mewn gwirionedd, fe’u crewyd ynddo ef (adn 16). Ynddo ef yr ydym yn byw, ac yn symud, ac yn bod (Actau 17:28). Y cysylltiad hwn rhwng pob peth ym mywyd Duw yw’r hyn y mae Jurgen Moltmann yn ei alw’n “gymuned y greadigaeth”. Y broblem yw ein bod ni, yn y byd Gorllewinol modern, wedi anghofio’r gymuned hon. Mae’r canlyniadau yn, ac fe fyddant, yn ddinistriol i greaduriaid eraill, planhigion, ac ati ac i fodau dynol hefyd – yn anffodus, y tlotaf a’r gwannaf gan fwyaf. Mae’r cysyniad o Teulu Trefeca Harris yn ddeniadol fel darlun symbolaidd o fodau dynol, Duw a’r wlad yn byw mewn cysylltiad cytûn. A oes ffyrdd y gallwn ni, yn ein bywydau unigol ac eglwysig yn yr unfed ganrif ar hugain, yn ogystal ag ym mywyd a gwaith Trefeca, ailsefydlu’r cysylltiad hyfryd hwn rhwng pob peth yng Nghrist?
  2. Gelwir ni fel canlynwyr Crist i gymodi y greadigaeth yn Nghrist lesu. Mae newyddion da Paul yn ‘fawr’ yn ei gwmpas. Mae yn cynnwys pob peth. Mae Crist wedi cyflawni heddwch, cymod sy’n cwmpasu’r holl greadigaeth (adn 20). Sut mae cyflawni’r cymod hwn? Wel, ef yw pen y corff, yr eglwys (adn 18). Eglwys sydd wedi’i galw i ‘weinidogaeth y cymod’ (2 Corinthiaid 5). Rydym yn gweinidogaethu yng nghyd-destun ‘argyfwng hinsawdd’. Mae gweinidogaeth y cymod hwn yn newyddion da i greadigaeth ddrylliedig. Mae gennym gyfrifoldeb i greu perthnasau lle mae bywyd dynol ac an-ddynol yn ffynnu mewn cyd-ddibyniaeth lawen ym mywyd Duw. Sut gallwn ni bregethu’r efengyl hon mewn gair a gweithred yn ein cartrefi, ein cymunedau, ac yn ein heglwysi? A allai Trefeca chwarae rhan mewn cenhadaeth o’r fath? Efallai, fel dulliau cnydio Howel Harris, y gallwn ddod o hyd i ffyrdd arloesol newydd o gyflawni gweinidogaeth o’r fath.