Dewrder i Newid
Mae hwn yn gyfnod pryderus o leihad mewn cynulleidfaoedd ac yn gyfnod ansicr i lawer o gapeli ac eglwysi yn y rhan fwyaf o enwadau Cristnogol y Gorllewin. Ond mae’n rhaid i ni gofio nad ni yn unig sy’n gyfrifol am ddyfodol ein ffydd. Mae’n rhaid i ni gredu mai Duw sydd wrth y llyw ac, felly, i fod yn asiantau agored ac yn barod i dderbyn newid yn ei enw. Yn llyfr y Diarhebion rydyn ni’n darllen “Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chwâl” (29:18). Mae gweledigaeth ar gyfer dyfodol Cristnogaeth angen i ni ymddiried y bydd popeth yn iawn os byddwn yn dilyn lle mae’r Ysbryd yn ein harwain. Ac rwy’n cyfaddef yn rhwydd nad yw’n hawdd i hen ddeinosoriaid fel fi weld pa newidiadau angenrheidiol a radical fydd eu hangen.
Caf fy atgoffa o gwestiwn Duw i Esecial: “A all yr esgyrn sychion hyn fyw?” (Esecial 37:1-14.) Yr ateb amlwg i unrhyw feidrol yn sicr fyddai “NA – does dim ffordd o gwbl a allai hyn ddigwydd!” AC ETO fe wnaethant.
Buaswn yn awgrymu ein bod yn gwrando ar y datganiad yn Diarhebion “Lle na cheir gweledigaeth, bydd y bobl ar chwâl ” (29:18). Oherwydd, heb weledigaeth o bosibiliadau’r dyfodol byddwn yn gwywo, yn marweiddio ac yn marw. Fodd bynnag, os daliwn yn ein calonnau a’n meddyliau (ac rydym angen i’r ddau fod yn rhan o’r peth) y ffaith bod Duw YN ein dyfodol, byddwn yn gallu cymryd cysur o’i ddatganiad i Jeremeia “Oherwydd myfi sy’n gwybod fy mwriadau a drefnaf ar eich cyfer … bwriadau o heddwch … i roi ichwi ddyfodol gobeithiol.’ (29:11) Ond mae Duw yn mynd ymlaen i wneud yr addewid hwnnw’n amodol “Yna galwch arnaf, a dewch i weddïo arnaf, a gwrandawaf arnoch.” (29:12)
Dylai’r sicrwydd hwnnw roi’r dewrder sydd ei angen arnom i wneud y newidiadau angenrheidiol i’n ffordd o wneud pethau. Felly mae’n hanfodol ein bod ni, nid yn unig yn gofyn i Dduw roi gweledigaeth inni o sut y gallem wneud pethau yn y dyfodol, ond hefyd y dewrder i weithredu ar y weledigaeth honno. Oherwydd, heb weledigaeth newydd a deinamig, bydd y status quo yn aros. Dim ond pan fydd gennym y penderfyniad i gyflawni’r weledigaeth y bydd esgyrn sychion y ffydd Gristnogol a’r eglwys, fel y gwyddom amdani, yn gallu dod yn fyw eto mewn ffordd a fydd yn sicrhau ein bod yn croesawu cynlluniau Duw at y dyfodol lle bynnag y gallant arwain.