O Arglwydd agor ein gwefusau, a’n genau a fynegant dy foliant.
Addolwn yr Arglwydd, gogoniant i’w enw.
Gogoniant i’r Tad, y mab a,r Ysbryd Glan fel yr oedd yn y dechrau, y mae yr awr hon ac y bydd yn wastad, yn oes oesoedd.

Arglwydd Dduw, rydym yn dy glodfori i ti godi o blith teulu yn Nhrefeca dy was Howell Harris, a’i danfon allan i adnewyddu’r eglwys yn ein gwlad.

Diolchwn i ti hefyd am ei weledigaeth pan fu’n casglu ynghyd yn Nhrefeca gymuned i gyd-weithio, cyd-fyw a chyd-addoli.

Boed i ni, aelodau o deulu Trefeca heddiw barhau i ddod ynghyd a chael ein danfon allan gennyt ti. Wedi dod ynghyd o sawl cenhedlaeth, iaith a chefndir, fe ddathlwn ein hundod yn Iesu Grist dy Fab.

Wedi’n danfon allan gyda’n hamrywiol ddoniau at amrywiol gyfleoedd i wasanaethu, fe ddathlwn rym dy Ysbryd Glan sydd o hyd ar waith yn ein gwlad. Wrth i ni wrando a dysgu – fe ymrwymwn ein hunain a’n heglwysi i ddisgyblaeth gostus.

Pan rydym yn wan ac yn wag mae arnom angen dy lawnder i. Wedi’n danfon allan yn dy nerth fe ddiolchwn i ti am bob dim a wnei di ynom ni a thrwom ni.

Fe ddaliwn o’th flaen, Arglwydd pob aelod o staff Coleg Trefeca a phawb fydd yn ymweld a Threfeca y y misoedd nesaf. Hefyd y rhai sydd yn gwneud penderfyniadau am y Ganolfan a phob aelod o Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Ymhob un, a thrwy bob un, gwneler dy ewyllus di yn enw Iesu.

O Arglwydd cariad a heddwch, cyffwrdd ein calonnau ni a chalonnau pawb oll fel y ceir diwedd ar anghyfiawnder ym mhob man.

Boed i heddwch deyrnasu yn ein calonnau, yn ein cartrefi, yn ein cymunedau, yn ein cenhedloedd a thrwy’r byd i gyd. Amen