Rhyfedd meddwl am y tro cyntaf i mi ymweld â Threfeca pan oedd John a Nerys Tudor yn Wardeniaid a’r safle yn edrych yn dra gwahanol – gyda’r hen gapel enfawr dal ar ei draed.
Mae nifer o newidiadau wedi bod ers hynny, a dyna hanes ein Cyfundeb a’n byd yn arbennig wrth edrych yn ôl ar gyfnod fy Llywyddiaeth. Mae newid yn anarfod – nid oes gennym ddewis – ond mae gennym ddewis am sut i ymateb. Mae’r un yn wir am gyfnod y pandemig.
Pan oeddwn yn Gaplan y Llynges ar y môr fe r’oedd storm yn codi a nid oeddwn yn gwybod am faint oedd am barhau, ond rhaid oedd meddu ar ffydd a nerth i ddyfalbarhau.
Diolch fod gennym Geidwad sydd yn gallu tawelu’r dyfroedd a’n harwain i’r porthladd tawel, clyd.
Diolch hefyd am dystiolaeth Llyfr yr Actau pennod 14 adnodau 17: “Ac eto ni adawodd ei hun heb dyst, gan iddo gyfrannu bendithion; rhoi glaw ichi o’r nef, a thymhorau ffrwythlon, a chyflawnder calon o luniaeth a llawenydd.”
Felly yn unol â’m thema fel Llywydd gadewch i ni ymddiried yn allu ein Duw gan gredu “Digon i ti fy ngras i; mewn gwendid y daw fy nerth i’w anterth.” (2 Corinthiaid 12: 9)
Gweddïwn: O Dduw ein Tad, a ninnau yn byw trwy cyfnod heriol yn hanes iechyd dy blant a bywyd ysbrydol ein cenedl erfyniwn o’r newydd am arweiniad dy Ysbryd sydd wedi cadw’r tystiolaeth yn fyw ymhob cenhedlaeth. Er i ni deimlo fod stormydd bywyd yn ein dychryn ac yn datguddio ein gwendid dyro i ni ddiolch am dy gariad a’th gadernid sydd yn ein sicrhau fod dy ras di yn ddigonol beth bynnag ddaw. Trwy Iesu Grist, ein Harglwydd. Amen.