Rhai meddyliau ar Salm 20
Agorais fy Meibl ychydig ddyddiau yn ôl a disgynnodd fy llygaid ar Salm 20. Dyma salm briodol wrth feddwl am y digwyddiadau o fewn y byd hwn ar hyn o bryd. Mae’n salm a ysgrifennwyd ar gyfer y brenin ychydig cyn iddo fynd allan i’r frwydr: mae’n salm i ni wrth inni wylio ac aros wrth i ryfel ymffyrnigo yn yr Wcráin. Salm gennym ni wrth i ni weddïo dros yr Wcráin – a gwledydd eraill sydd yng nghanol trais a therfysgaeth. Darllenwch y salm a myfyriwch arni yn weddigar wrth i chi, efallai, chwarae cerddoriaeth dyner neu eistedd yn dawel ym mhresenoldeb yr Arglwydd.
Mae’r salm, rwy’n teimlo, hefyd yn broffwydol i’r brenin ddod oherwydd onid aeth Iesu trwy gyfyngder cyn mynd i fuddugoliaeth? Ac onid arbedodd yr Arglwydd ei eneiniog?
I’r rhai o ffydd mae’r salm hon hefyd yn un o anogaeth a meddyliaf eto am ffydd gref pobl Wcráin wrth i mi ddyfynnu o’r salm “Ymffrostia rhai mewn cerbydau ac eraill mewn meirch, ond fe ymffrostiwn ni yn enw’r Arglwydd ein Duw ”
Dduw ein Tad, mae yna adegau pan na wyddom beth i weddïo amdano na sut i weddïo. Mae yna adegau pan na allwn ond dod o’th flaen a chaniatáu i’n meddyliau fod yn weddïau i ni. Meddyliau ar gyfer pobl yr Wcráin a meddyliau ar gyfer pobl Rwsia. I rieni a phlant sy’n cael eu dal mewn rhyfel nad ydynt wedi ei greu. Ar gyfer asiantaethau cymorth ac unigolion sy’n dangos cariad aberthol. Mae ein calonnau’n dolurio drostynt a gwyddom fod dy galon di yn dolurio hefyd wrth i ti wylio’r dyfnder y mae’r hil ddynol yn syrthio iddo. Amgylchyna hwynt yn dy gariad, O Dad, bydd wrth eu hymyl yn eu trallod.
Ac eto y mae diolchgarwch o fewn y sefyllfa enbyd hon, Dad, fel y gwelwn ddwylo cyfeillgarwch yn cael eu hymestyn i’r rhai mewn angen; wrth i ni weld dieithriaid llwyr yn croesawu ffoaduriaid i’w cartrefi ac i’w bywydau; wrth i ni weld tywalltiad y pryder gan y person cyffredin ar y stryd a chenhedloedd yn dod at ei gilydd i gondemnio drygioni. Diolchwn i ti pan allwn ni weld ein bod wedi’n gwneud yn dy ddelwedd di a gallwn fod yn sianeli o’th gariad a’th dosturi.
Bydded i wynt dy Ysbryd chwythu ar draws y byd ac iacháu’r cenhedloedd.
Bydded i wynt dy Ysbryd chwythu trwy ein bywydau a’n newid er lles.
Bydded i wynt dy Ysbryd gyffwrdd â chalonnau caled a meddyliau ystyfnig.
Boed i wynt dy Ysbryd ddod â chyffyrddiad ein Gwaredwr a’n hatgoffa o’i aberth cariadus a buddugoliaeth cariad dros ddrygioni, goleuni dros dywyllwch.
Bydded bendith yr Hollalluog Dduw, y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân fod gyda ni oll. AMEN