(Ychydig o adnodau o Salm 8)

O Arglwydd, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear!

Pan edrychaf ar y nefoedd, gwaith dy fysedd, y lloer a’r sêr, a roddaist y neu lle, beth yw meidrolyn, iti ei gofio, a’r teulu dynol, iti ofalu amdano?

Mae edrych allan dros gefn gwlad o amgylch Trefeca yn rhoi ymdeimlad i un o ogoniant ein Duw.

I fod ar eich pen eich hun ar ben y bryniau yw profi tawelwch a llonyddwch sy’n rhoi ymdeimlad i un o heddwch Duw.

I dreulio amser yn Nhrefeca o fewn cyfyngiadau cariad a chymrodoriaeth sydd i’w cael yno yw i adnabod cwmnïaeth pobl Dduw.

Dad Dduw,

rydym yn diolch i ti am y lle hwn, lle nid yn unig yr ydym yn dod o hyd i hanes ond hefyd olion traed cenedlaethau o Gristnogion sydd wedi dod o hyd i’th heddwch, dy gariad, dy lonyddwch a’th ogoniant wrth iddynt gerdded, siarad, dysgu a chwarae o fewn dy bresenoldeb.

Gweddïwn dros ddyfodol Trefeca y bydd yn parhau i ateb anghenion cenedlaethau dy bobl yn y dyfodol ac ymestyn allan at y rhai sydd eto i ddod o hyd i ti.

Diolchwn i ti am y rhai sy’n dy wasanaethu di yn Nhrefeca, ym mha bynnag swyddogaeth, y byddant yn cael eu cynnal gan dy gariad ac y byddant yn sianelau o’th ras.

Gweddïwn dros bawb sy’n ymweld â’r lle arbennig hwn y gallant deimlo eu bod wedi eu hymweld gan y Duw sy’n ymwybodol ohonyn nhw ac yn dy foli am dy bŵer creadigol o fewn natur ac o fewn eu bywydau.

AMEN