Mae yna ddyddiau pan fyddwch angen cael eich cynnal. Pan fydd eich adnoddau’n rhedeg allan a chithau’n crio i’r Arglwydd am gymorth a nerth. Os ydych chi’n profi diwrnod fel hwnnw, annogaf chi i droi at Eseia 46. Mae’n agor gyda llun o anifeiliaid blinedig yn cario pwysau trwm o eilunod ffug trwy strydoedd Babilon. Maent yn gwargrymi, yn ymgrymu ac ni allant achub eu hunain rhag caethiwed.

Gallwn ni deimlo pwysau arnom ac yn flinedig fel y bwystfilod hynny. Gall fod llawer ar ein meddyliau a phryderon ac ofnau yn pwyso ar ein calonnau.

Ond mewn darn hyfryd o farddoniaeth, mae’r Salmydd yn mynd â ni, fel plentyn, i fyny at freichiau diogel Duw. Ef yw’r un sydd wedi rhoi genedigaeth i ni a’n cario ni o’r groth. Ac yn awr y mae’n mynd â ni ac yn ein siglo yn ei freichiau o gariad wrth i addewidion rhythmig y gerdd ein siglo’n dyner gyda’r tawelwch meddwl dedwydd:

“Myfi sy’n gwneud, myfi sy’n cludo,

myfi sy’n cario, a myfi sy’n arbed.”

Gwnaeth fy ffrind y llaw yn y darlun allan o blastr mewn maneg rwber. Peintiodd hi mewn lliw copr hardd a gosod golau yn y cledr. Mor syml ac eto mor effeithiol. Rwy’n edrych arno ac yn gweld fy hun yn cael fy nal a’m diogelu gan ddoethineb a chariad Duw. Hyd yn oed ar ddiwrnod pan nad wyf yn gwybod y ffordd ymlaen i mi fy hun, nac i’r byd arteithiol hwn lle mae’n ymddangos bod rhyfel a chelwydd a phwerau didostur gyda’r llaw uchaf, rwy’n ymddiried yn yr Un sydd wedi rhoi genedigaeth a bywyd i mi – yr Un a fydd yn ein cario ac yn ein hachub.

Rydym wedi profi llawenydd y Pasg. Pobl Pasg ydyn ni a Haleliwia yw ein cân. Dyna’r gân o sicrwydd trwy yr hwn yr wyf am fyw fy mywyd. Mae angen i mi roi fy hun a phryderon fy ffrindiau, fy nheulu a’r byd yn aml yng ngofal yr Un y bydd ei bwrpas yn sefyll ac a fydd yn cyflawni Ei fwriad.

“Yn wir, lleferais ac fe’i dygaf i ben,

fe’i lluniais ac fe’i gwnaf.”

“O Dduw ein Tad,

Mab yr hwn a addawodd i ni fod dy faich yn ysgafn. Cymer ein pryderon a’n hofnau drosom ein hunain, ein hanwyliaid, ein byd. Sigla ni yn dyner yn dy freichiau o gariad, amddiffyn a cynnal ni i gyd a bydded i’th fwriadau gael eu cyflawni yn a thrwy bob un ohonom. Hyderwn yn dy gynlluniau, gobeithiwn yn dy iachawdwriaeth.

Diolch am lonyddwch a thawelwch mannau encilio fel Trefeca. Crea lle mor ddiogel yn ein calonnau; gorffwys i’n heneidiau a thawelwch meddwl.

Yn rhythmau ein tasgau beunyddiol, sigla ni’n ysgafn i guriad calon dy gariad,

A churiad cyson dy fwriadau da dros ein bywydau. Amen