‘Mae cyfiawnder wrth galon yr Efengyl, ac y mae a wnelo cyfiawnder hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol yn ein byd ni hefyd.
Rydym yn cydnabod fod effeithiau dwysaf newid hinsawdd yn effeithio ar wledydd a chymunedau tlotaf ein byd. Drwy sefyll yn erbyn anghyfiawnder hinsawdd, a cymryd cyfrifoldeb ein hunain, yr ydym fel Eglwys, ac fel creadigaeth gyfan yn canmol a gogoneddu Duw ein creawdwr.’
Dyma ddyfyniad o’n polisi amgylcheddol ni fel Cyfundeb. Nid cyd-ddigwyddiad yw’r ffaith ein bod fel Eglwys yn y Gymanfa eleni wedi lansio ein Apel Cymorth Cristnogol ar gyfer 2022 ar thema am y tro 1af, sef ‘Cyfiawnder Hinsawdd.‘ Byddwn yn edrych ar engreifftiau o effaith newid hinsawdd o Kenya ddechrau’r flwyddyn ac yna Haiti erbyn mis Medi.
Pan lanswyd strategaeth newydd Cymorth Cristnogol yng Nghaerdydd yn Ebrill 2019 rhoddwyd pwyslais ar 3 nôd 1.rhoi 2. Ymateb. 3.gweddio. Ein nôd ninnau yn 2022 fydd gosod targed o £250,000 ar gyfer yr apêl. Ymateb drwy weithredu ein polisi amgylcheddol fel Cyfundeb cyfan, henaduriaeth, Eglwysi ac fel unigolion. Fe fyddwn hefyd yn rhannu deunydd addoli, yn eich annog i weddio ac fe obeithiwn gae cyfleoedd i edrych ar y Beibl gyda cymunedau ac Eglwysi eraill yn y byd o dan gynllun ‘Just Scripture’ Cymorth Cristnogol.
Da ni’n edrych ymlaen yn fawr am flwyddyn ein Apêl ac yn dymuno’n dda i bawb yn y paratoi. Wrth baratoi felly gadewch i ni weddio gyda’r Salmydd. (Mae hon yn weddi a baratoais ar gyfer y llyfr ‘Rage and Hope, 75 prayers for a better world’ i ddathlu Penblwydd Cymorth Cristnogol yn 75 eleni)
Gweddi yn Cofio ac yn tystio i’r anghyfiawnder sy’n achosi ein cynddaredd a’n galar, wedi ei selio ar Salm 6
Gweddiwn
Arglwydd, am ba hyd?
Bydd yn garedig ata i, dw i’n wan ac yn ddiymadferth. Dw i’n gwybod fy mod innau’n farus ac yn tybio fy mod yn haeddu bywyd braf. Ond Arglwydd dw i mor wan, ac mae fy mhen i’n troi fel chwrligwgan ffair wrth feddwl am fy nghyfrifoldeb at eraill.
Arglwydd, am ba hyd?
Y bydd tlodi yn scandal yn ein byd, ac yn sarhad arnom i gyd. Mae’r ffeithiau yn gwneud i mi grynu at yr asgwrn. Ond y mae profiad y rhai sy’n byw mewn tlodi yn gwneud i mi ddychryn am fy mywyd. Dw i mor flin fod cymaint ar ddiwedd rhestr blaenoriaethau ein byd, ac yn ddiymadferth eu penderfyniadau ynglŷn â’u dyfodol.
Arglwydd, am ba hyd?
Y bydd Merched a dynion, henoed a phlant, teuluoedd a chymunedau yn cael eu dadleoli. Yn ffoi, yn cael eu gorfodi i wynebu amgylchiadau estron er mwyn achub eu bywydau a bywydau eu hanwyliaid.
Arglwydd, am ba hyd?
Y bydd bod yn ferch yn gwneud hi’n fwy tebygol i rywun fyw mewn tlodi eithafol. Mae fy ngwely’n wlyb gan ddagrau bob nos. Dw i mor flin, does neb yn gwrando arnaf nac yn dallt pa mor rhwystredig dw i.
Do Arglwydd, Dw i wedi blino tuchan ac mae fy llygaid wedi mynd yn wan gan flinder, dw i wedi ymladd o achos holl elynion cyfiawnder.
Ond Arglwydd ti wedi fy nghlywed i’n crio ac yn pledio am help, ti wedi maddau i mi fy marusrwydd a fy agwedd hunan gyfiawn. Ti hefyd wedi gyrru’r rhai balch ar chwâl. Haleliwia! Ti hefyd wedi cymryd awdurdod oddi ar lywodraethwyr anghyfiawn ac wedi anrhydeddu’r bobl hynny sy’n cael eu cysidro mewn byd anghyfiawn fel ‘neb’.
Arglwydd, ti mor drugarog. Dw innau isio bod yn drugarog hefyd. Diolch am wrando arnaf yn pledio am help.
Dw i’n dod yn wylaidd ger dy fron, ac yn pwyso ar dy gariad diysgog, gan ofyn i ti ateb fy ngweddi, yn enw’r un a ddangosodd yn llawn i ni dy drugaredd tuag atom. Yn enw Iesu
Amen