Rhai dyddiau yn ol cafodd fy chwaer, Eryl, law driniaeth ar ei llygad dde i gael gwared o cataract fydd yn ei galluogi I weld yn gliriach i ddarllen unwaith eto. Gwyrth yn wir.
Mae pedwar adroddiad yn yr Efengylau am Iesu, yn ystod ei weinidogaeth, yn adfer eu golwg i bobl oedd yn ddall ac mae’r un yn Efengyl Marc 10:46-52 yn gysur a sialens.
Pan glywodd Bartimeus bod Iesu yn dod heibio ar y ffordd ymatebodd yn syth gyda’r bwriad o ddenu ei sylw ar waethaf ymgais y rhai o’i gwmpas i’w rwystro. Yng nghanol yr holl swn a phrysurdeb y dyrfa clywodd Iesu gri un oedd mewn gwir angen ohono fel y mae yn gwneud bob amser ac yn gysur i ni. Oedodd ar ei ffordd a galwodd Bartimeus I ddod ymlaen ato. Yna gofynnodd gwestiwn rhyfedd i ddyn dall, ‘Beth wyt ti am i mi ei wneud i ti ‘. Daeth yr ateb yn syth, Syr, ‘rwyf am gael gweld ‘ Dyna oedd ei angen mwyaf a iachaodd Iesu ef. Weithiau, nid yr hyn sy’n amlwg yw fy angen mwyaf ond rhywbeth dyfnach o lawer gall Iesu’n unig ei ddatrys a’i iachau.
Mae Gemau’r Gymanfwlad ymlaen. Gwn am un gwr ifanc redodd ras heb y bwriad i rasio am y linell derfyn. ‘ Roedd wedi ei glymu i arddwrn gwr ifanc arall oedd yn ddall gan ei arwain yn ei gyflymder ef. Gwnaeth hi’n bosibl i’w gyfaill gystadlu trwy fod
wrth ei ochr.
Ar ein siwrne trwy fywyd diolchwn I Dduw am Iesu Grist sydd yn fyw heddiw yn ein plith yn ei Ysbryd ac yn ein derbyn fel ‘rydym, yn ein caru, yn maddau i ni ac wrth ein hochor bob amser fel mae wedi addo.
Gweddiwn, trwy ras Duw, cawn ‘redeg y ras sydd o’n blaenau heb ddiffygio gan gadw ein golwg ar Iesu, yr Hwn mae ein ffydd yn dibynnu arno o’i dechrau i’w diweddd.’