‘Paid â chael dy drechu.’
Darllen Rhufeiniaid 12. 9-21
Chwalwyd 295 o gartrefi Paletiniaid yn 2021 gan wneud 895 yn ddigartref a hynny yn cynnwys 463 o blant. Dyna ran o’r sefyllfa o wrthdaro sy’n parhau rhwng yr Israeliaid a’r Palestiniaid.Mae’r ymosodiad yma ar fywydau Palestiniaid tlawd yn rhan o bolisi Llywodraeth Israel i feddiannu rhannau helaeth o dir a roddwyd i’r Palestinaid fel rhan o Gytundeb Rhyngwladol.
Dyma bolisi’r ‘Meddiant’/’Occupation’.
Mae Daher Nassar yn ceisio amddiffyn ei fferm deuluol rhag cael ei meddiannu gan Fyddin Israel. Mae’n fferm fawr i Balestiniaid, sef 100 erw o goed ffrwythau – almond,ffigys,afalau,olewydd – sydd wedi bod yn y teulu ers tros ganrif. Mae’r fferm yn agos iawn i Fethlehem ac mae llawer o deulu Daher yn byw ym Methlehem. O’r fferm mae Daher yn gweld y mur sydd bellach fel mur carchar 400 milltir yn amgylchynu’r Llain Orllewinol. Ond mae hefyd yn gweld rhai o’r pedair cymuned Israelaidd sydd wedi eu sefydlu fel rhan o bolisi y Meddiant.Ym mis Mai 2021 daeth rhai o beiriannau Byddin Israel ar dir Daher a dirweiddio cannoedd o’r coed.Mae hyn wedi digwydd o’r blaen ac y mae brwydr yn mynd ymlaen mewn llys Llys Barn hefyd, ond mae’r gweithredoedd yn eiddo i Daher.Y bwriad amlwg yw bygwth Daher nes ei fod yn ildio ac yn ymadael a’i fferm.Fe ddylid dweud nad oes terfysgwyr o fath yn y byd yn nheulu Daher oherwydd fe honir gan Israel mai dyna yw bwriad y Mur a’r Meddiant – i wneud Israel yn ddiogel rhag terfysgwyr.
Sut mae ymateb i’r fath sefyllfa?
Mae Daher a’r deulu yn Gristnogion ac yn perthyn i draddodiad Eglwys Uniongred Syria, efallai yr eglwys hynaf yn y byd ( gw. Actau 11 ) Am pob coeden a ddiwreiddwyd gan y Fyddin mae Daher wedi plannu coed newydd. Ym mis Mai 21 bu difrod i rai o adeiladau’r fferm hefyd, ac mae Daher wedi atgyweirio er mwyn mynd ymlaen â gwaith y fferm.Ond mae Daher yn mynd ym mhellach na ‘rheolau’r bywyd Cristnogol’ fel yn Actau 12.
Ers rhai blynyddoedd bellach mae Daher wedi enwi ei fferm yn ‘Babell y Cenhedloedd’ ac yn trefnu i wahodd pobl o wahanol wledydd a diwylliannau a chrefyddau – yn arbennig Iddewon a Mwslemiaid – i dreulio amser yn gweithio ar y fferm a’i gwneud felly yn fferm ‘deuluol’ yn yr ystyr ehangaf posibl. Mae’n arwydd o deulu a theyrnas sy’n dymchwel muriau, codi pontydd ac adeiladu cyfeillgarwch.
Yn ogystal a diwreiddio’r coed mae Byddin Israel hefyd wedi gosod cerrig anferth ym mynedfa’ ‘Pabell y Cenhedloedd’. Ymateb Daher oedd rhoi carreg arall ger y fynedfa gyda’r geiriau : fe wrthodwn fod yn elynion.
Mae Daher a’i deulu yn addoli ym Methlehem.
Gweddi
Diolchwn i Ti, O Dduw, Creawdwr y Cread a’r Cenhedloedd
am y rhai sydd yn gyfryngau yn Dy law
i ddod â gobaith am gymod ple mae gwrthdaro,
i ddod ag ysbryd adnabod ple mae dieithriwch,
i blannu hadau heddwch ple mae hen dir casineb,
ac i dystio mewn gair, gweithred ac addoli
i’r ffordd a gymerodd Iesu, ein Tangnefedd,
ar ei daith o Fethlehem i Jerwsalem.
Gweddiwn dros Daher a Phabell y Cenhedloedd
a phawb sydd heddiw yn gweithio tuag at gymod
a heddwch parhaol yn Israel a Phalesteina. Amen