Arglwydd Dduw, diolchwn iti am gael y fraint o blygu ger dy fron mewn gweddi yn ystod yr Wythnos Sanctaidd. Cyfeiria’n meddyliau at groes Iesu dy Fab, a chynorthwya ni i’w ddilyn ar hyd ffordd unig ei ddioddefaint. Wrth inni syllu tua’r groes, boed inni weld dy oleuni di yn torri ar y tywyllwch, a sylweddoli mawredd yr aberth cariadlon ar Galfaria.
Yn nhywyllwch ein hamserau, rho ras i ni i gofio ger dy fron am bawb sy’n dioddef yn ein byd – y gwan a’r dolurus, y diamddiffyn a’r rhai a erlidir, a’r rhai y mae eu byd a’u bywyd wedi’u rhwygo gan ryfel. Yng nghanol eu tywyllwch, rho oleuni dy gariad, a bendithia bob ymdrech a wneir i leddfu poen a dioddefaint. Boed i ni fod yn agored ac yn groesawgar tuag at bawb sydd mewn angen, heb ddiystyru’r rhai sy’n wahanol.
Cofiwn fod aberth yr Iesu croeshoeliedig yn aberth dros y byd cyfan, heb geisio meddiannu ei neges i ni ein hunain, ond ei chyhoeddi yn ein bywyd, yn ein geiriau a’n gweithredoedd, gan bwyso ar ei gariad a’i arweiniad.
Wrth inni edrych ymlaen at y Pasg, caniatâ inni weld goleuni newydd yn ein hanes ni – goleuni gobaith a chariad, goleuni ffydd a menter, goleuni’r hwn sy’n wyrth yr atgyfodiad.
Arwain ni, Arglwydd, yn dy lwybrau, a chymhwysa ni o’r newydd i’th wasanaethu mewn cariad.
Yn enw Crist dy Fab
Amen.