Arglwydd Dduw, diolchwn i ti am lawnder rhyfeddod y cread – am ddydd a nos, haul a glaw, cynnyrch y meysydd a ffrwythau’r coed. Diolchwn i ti am y drefn sydd yn sicrhau parhad ym myd natur o dymor i dymor, ac am y cyfoeth sydd i ni yn y byd naturiol o’n hamgylch.
Erfyniwn dy faddeuant ein bod yn ein hunanoldeb yn camddefnyddio ac yn cam-drin adnoddau’r byd. Rydym yn llygru’r awyr a’r afonydd, yn difetha’r haen osôn ac yn caniatáu i’n cyd-ddyn fyw mewn tlodi.
Dysg ni, O Dduw, i barchu’r byd ac i barchu’n gilydd. Maddau inni fod cymaint o anhrefn o’n cwmpas – rhwng gwlad a gwlad, rhwng pobl a’i gilydd. Lle mae rhaniadau, rho ysbryd cymod. Lle mae casineb, rho gariad. Lle mae tywyllwch, rho oleuni.
Rho i ni ras i garu’n gilydd yn well, mewn cyfnod lle mae arfau a thaflegrau yn dal i fygwth heddwch byd. Diolch iti ein bod yn dysgu trwy brofiadau tebyg i Covid-19 sut mae caru a gwasanaethu cyd-ddyn. Gwared ni rhag balchder a hunan-dyb, a’n hawydd parhaus i ymddiried yn ein nerth ein hunain ac i ddychmygu y gallwn ni ddatrys pob problem heb dy arweiniad di.
Gad i eiriau Iesu, ‘Tangnefedd i chwi!’ fod yn arwyddair ein bywyd, a boed i’r Ysbryd sy’n dilyn cyhoeddi’r tangnefedd fod yn ysbryd byw yn ein calonnau bob amser. Fe wyddom mai dim ond trwy i hynny ddigwydd y byddwn yn cyrraedd y man lle y dylem fod, ac y byddwn yn wir blant i ti yn y byd.
Gofynnwn hyn yn enw Iesu Grist. Amen.