Nefol Dad, erglyw ein gweddi
wrth wynebu’r flwyddyn hon,
mae’n hamserau yn dy ofal,
a’n helyntion ger dy fron;
dyro brofi
hedd dy gariad, doed a ddêl.
Ein Tad, deuwn atat wrth gofio geiriau T. Eurig Davies ar ddechrau Blwyddyn Newydd. Mae 2022 yn ymestyn o’n blaen yn dudalen lân yn nyddiadur bywyd pob un ohonom. Mae’r 12 mis nesaf yn cynnig cyfleoedd di-rif inni lenwi’n dyddiau, fel mynegir yn gelfydd yn Y Pregethwr 3:1-8 (Beibl.net – https://beibl.net/):
Mae amser wedi ei bennu i bopeth, amser penodol i bopeth sy’n digwydd yn y byd:
Amser i gael eich geni ac amser i farw, Amser i blannu ac amser i godi beth blannwyd;
Amser i ladd ac amser i iacháu, Amser i chwalu rhywbeth ac amser i adeiladu;
Amser i wylo ac amser i chwerthin, Amser i alaru ac amser i ddawnsio;
Amser i daflu cerrig i ffwrdd ac amser i gasglu cerrig, Amser i gofleidio ac amser i beidio cofleidio;
Amser i chwilio ac amser i dderbyn fod rhywbeth ar goll, Amser i gadw rhywbeth ac amser i daflu i ffwrdd;
Amser i rwygo ac amser i bwytho, Amser i gadw’n dawel ac amser i siarad;
Amser i garu ac amser i gasáu; Amser i ryfel ac amser i heddwch.
Wrth inni wynebu popeth a ddaw i’n rhan eleni, gweddïwn am gael clywed dy lais a derbyn dy ddoethineb a’th arweiniad ym mhopeth a wnawn. Gweddïwn y bydd dy gariad yn ein nerthu a’n cynnal mewn byd sy’n ymddangos yn aml yn un ansicr.
Mae cyfnod o ansicrwydd yn wynebu Coleg Trefeca eleni wrth i Eglwys Bresbyteraidd Cymru gynllunio dyfodol newydd ar ei chyfer. Gweddïwn bydd y trafodaethau a’r cydweithio gydag eraill yn dwyn ffrwyth ac yn sicrhau dyfodol disglair a diogel i’r fangre arbennig hon. Gweddïwn bydd Trefeca gyda’i hanes cyfoethog yn parhau i fod yn ganolfan dysg. Gweddïwn bydd Trefeca yn ei leoliad godidog yn parhau i fod yn ganolfan encil i’r enaid gael llonydd i atgyfnerthu drachefn. Gweddïwn bydd Trefeca yn parhau i ateb gofynion ein dyddiau ni wrth inni gynllunio ac edrych ymlaen at yfory.
Gofynnwn hyn yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, Amen.