Ein Tad, trown atat mewn gair o weddi. Dy gariad yw’r rhodd sy’n cyfoethogi ein bywyd – cyflwynwn ein diolch i ti. Sylweddolwn pa mor fregus yw bywyd yn y byd sydd ohoni a pha mor werthfawr yw ein hiechyd. Cymerwn hwynt yn ganiataol a chyfaddefwn nad ydym yn ddigon diolchgar amdanynt.
Mae’n Ddiwrnod Iechyd y Byd ar 7fed Ebrill. Eleni, mae Sefydliad Iechyd y Byd yn tynnu sylw at fyd sy’n parhau i ddioddef yn sgil pandemig y coronafeirws. Mae’n tynnu sylw at blaned sy’n gwegian oherwydd y llygredd sy’n gwenwyno’r ddaear. Mae’n tynnu sylw at effeithiau newid hinsawdd ar draws y byd megis y sychder a’r llifogydd eithafol sydd mor ddinistriol. Maent oll yn achosi’r fath ddioddefaint a marwolaethau.
Ein dymuniad yw bod pawb yn cael byw mewn byd sy’n gyfartal a theg. Gweddïwn am fyd heddychlon sy’n gofalu am bob un. Boed i’n gweithredoedd barhau i wella bywydau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Diolchwn am Iesu, y Meddyg Da a boed i ni ddilyn ei esiampl, yng ngeiriau emyn cyfarwydd J. T. Job:
Cofia’r byd, O Feddyg da,
a’i flinderau;
tyrd yn glau, a llwyr iachâ
ei ddoluriau;
cod y bobloedd ar eu traed
i’th was’naethu;
ti a’u prynaist drwy dy waed,
dirion Iesu.
Y mae’r balm o ryfedd rin
yn Gilead,
ac mae yno beraidd win
dwyfol gariad;
yno mae’r Ffisigwr mawr,
deuwch ato
a chydgenwch, deulu’r llawr –
diolch iddo!
Gofynnwn hyn yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, Amen.