Ein Tad, deuwn atat ar ddechrau Awst cyfnod dathlu’r Eisteddfod Genedlaethol. Cawn gyfle eto eleni i fwynhau’r Eisteddfod AmGen a doniau creadigol ein cenedl. Doniau gwahanol genhedloedd sydd i’w gweld yn y Gemau Olympaidd yn Siapan. Diolchwn am y dechnoleg sy’n caniatáu i ni fwynhau holl ddoniau’r eisteddfodwyr ac athletwyr ple bynnag ‘rydym yn byw yn y byd.

Gofynnir y cwestiwn ‘Ble gest ti’r ddawn?’ yn llinell olaf cân enwog Ryan Davies ‘Ti a dy Ddoniau’.

Ti yw rhoddwr ein doniau a boed i ni eu trysori a’u defnyddio’n ddoeth. Ie, defnyddiwn hwynt yn yr Eisteddfod AmGen a’r Gemau Olympaidd. Defnyddiwn hwynt hefyd i wella bywydau eraill a’r byd o’n cwmpas. Boed i ni ddilyn esiampl Cristnogion megis Howell Harris ac aelodau Teulu Trefeca wnaeth ddefnyddio eu doniau i genhadu yn dy enw di. Defnyddiwn ninnau ein hamrywiol ddoniau yn unol â dy gyngor yn Rhufeiniaid 12:6-8 (argraffiad beibl.net):

 6 Mae Duw wedi rhoi doniau gwahanol i bob un ohonon ni. Os ydy Duw wedi rhoi’r gallu i ti roi neges broffwydol, gwna hynny pan wyt ti’n gwybod fod Duw am i ti wneud. 7 Os mai helpu pobl eraill ydy dy ddawn di, gwna job dda ohoni. Os oes gen ti’r ddawn i ddysgu pobl eraill, gwna hynny’n gydwybodol. 8 Os wyt ti’n rhywun sy’n annog pobl eraill, bwrw iddi! Os wyt yn rhannu dy eiddo gydag eraill, bydd yn hael. Os oes gen ti’r ddawn i arwain, gwna hynny’n frwd. Os mai dangos caredigrwydd ydy dy ddawn di, gwna hynny’n llawen.

Diolchwn i ti am ein doniau. Gofynnwn am dy arweiniad i’w defnyddio’n ddoeth. Defnyddiwn hwynt gorau ein gallu er lles eraill ac i wella ein byd. Gofynnwn hyn yn enw ein Harglwydd Iesu Grist, Amen.