Y Gymanfa Gyffredinol
Hollalluog Dduw, yr hwn sydd yr un ddoe, heddiw ac am byth, bendithiwn di am dy gariad a’th drugaredd tuag atom.
I Dad y trugareddau i gyd
rhown foliant, holl drigolion byd;
Llu’r nef moliennwch, bawb ar gân,
Y Tad, a’r Mab, a’r Ysbryd Glân.
Thomas Ken, 1637-1711 cyf. Howel Harris, 1714-73
Gweddïwn yn arbennig yr wythnos hon dros y Gymanfa Gyffredinol yn Salem, Treganna, Caerdydd. Bendithia y Llywydd, yr Ysgrifennydd Gyffredinol, ein gwesteion, y Swyddogion, staff y Swyddfa, y darlithwyr, y rhai sy’n cymryd yr oedfaon, yr eglwys sy’n ein croesawu, a phawb sy’n rhan o’r Gymanfa. Wrth i ni ddod allan o gysgod y pandemig, diolchwn am y cyfle i gwrdd wyneb a wyneb unwaith eto ac ar yr un pryd am y dechnoleg sy’n galluogi rhai ohonom i barhau i ymuno â’r cyfarfodydd yn rhithiol.
Bydd gyda ni, O Iesu da;
santeiddia ein cymdeithas.
(W. Rhys Nicholas, 1914-96)
Gofynnwn am dy nerth a’th oleuni fel y byddo’r cyfan a drafodwn a’r cyfan a benderfynwn yn gymeradwy ger dy fron ac er lles a gogoniant dy deyrnas.
Diolchwn am dy Eglwys ar hyd a lled y ddaear a gweddïwn y bydd i’w chenhadaeth lwyddo a’i gwaith fynd ar gynnydd.
Cyflwynwn i ti Eglwys Bresbyteraidd Cymru ac erfyniwn am dy fendith arni, fel y bydd i’w thystiolaeth fod yn effeithiol a’i bywyd yn adlewyrchiad o’th gariad.
Gweddïwn yn enwedig dros y rhai sy’n llesg neu’n wael,
y teuluoedd sydd mewn profedigaeth, a’r aelodau sydd mewn ysbytai a chartrefi. Bugeilia bob aelwyd, a thrwy dy Ysbryd Glân ymestyn y tu hwnt i’n cyrraedd ni i ddwyn cysur a gobaith, ffydd ac adnewyddiad.
Hyn a ofynnwn yn enw ac yn haeddiant
ein Harglwydd, Iesu Grist. Amen.